Cyhoeddi enwebiadau Gwobrau Dewi Sant 2018
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhoeddi enwau'r rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.
Mae'r gwobrau, sydd yn eu pumed flwyddyn, yn cydnabod llwyddiannau a chyfraniadau pobl sy'n byw yng Nghymru neu sy'n dod o Gymru.
Ymysg y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae elusen bêl-droed GÔL!, y newyddiadurwr Huw Edwards a chapten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 22 Mawrth.
'Grŵp eithriadol'
Yn cyhoeddi'r enwau ddydd Iau, dywedodd Mr Jones: "Mae'r digwyddiad hwn sydd, erbyn hyn, yn cael ei gynnal am y bumed flwyddyn, yn dathlu ac yn cydnabod llond llaw yn unig o'r bobl hynny sydd naill ai wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun arall, neu sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd neu wedi cyflawni rhywbeth sydd wir yn ysbrydoli eraill.
"Unwaith eto, mae'r rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn grŵp eithriadol o bobl.
"Mae pob copa walltog ohonyn nhw'n glod i Gymru.
"Dw i'n edrych 'mlaen at gael dathlu'r pethau anhygoel y maen nhw wedi'u cyflawni yn y seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal ar 22 Mawrth."
Yr enwebiadau'n llawn
Dewrder
Julian Rudge o'r Coed-duon - Gweithiwr gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans wnaeth lonyddu a thawelu ymosodwr oedd wedi llofruddio dynes nes i'r heddlu gyrraedd i'w arestio;
Laura Matthews o Bort Talbot - Llwyddodd i wahanu dau ddyn oedd yn ymladd cyn rhoi cymorth cyntaf i un ohonynt nes i'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd;
Patrick Dunbar, Swyddog Cymorth Cymunedol gyda Heddlu De Cymru - Pan nad oedd ar ddyletswydd, fe gariodd ddynes oedd â llosgiadau difrifol i'w choesau allan o dŷ oedd ar dân.
Dinasyddiaeth
Chris Roberts o Ruddlan - Ymgyrchydd gafodd ddiagnosis o ddementia pan oedd yn ddim ond 50 mlwydd oed, sydd nawr yn gweithio i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr;
Hilary Johnston o Gaerdydd - Sylfaenydd a chadeirydd ymddiriedolwyr elusen ddielw Cwtch Baby Bank, sy'n cefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed yn y gymuned;
Mair Elliott o Sir Benfro - Ymgyrchydd iechyd meddwl ac awtistiaeth yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth drwy siarad am ei phrofiad personol ei hun.
Diwylliant
David Pountney o Gaerdydd - Cyfarwyddwr Celfyddydol Opera Cenedlaethol Cymru;
Huw Edwards, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr - Newyddiadurwr ar y teledu ers 30 mlynedd;
Lynwen Brennan, sy'n wreiddiol o Benalun - Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm, un o'r brandiau mwyaf llwyddiannus yn y sector ffilm ryngwladol, sy'n enwog am greu a chynhyrchu'r cyfresi Star Wars ac Indiana Jones.
Menter
John Davies Recliners o Rondda Cynon Taf - cwmni wedi'i leoli yng Nghwm Rhondda sy'n cyflenwi a gweithgynhyrchu dodrefn symudedd pwrpasol, yn ogystal â seddi arbenigol;
Tiny Rebel Brewing Co o Dŷ-du - Cafodd ei sefydlu yn 2012 gan y brodyr yng nghyfraith, Bradley Cummings a Gareth Williams, ac mae bellach yn cyflogi 120 o staff ac yn allforio i 35 o wledydd ledled y byd;
William Watkins Radnor Hills o Drefyclo - Sefydlwyd Radnor Hills Mineral Water Company gan William Watkins yn 1990 pan ddechreuodd gasglu dŵr mewn poteli o darddell ar ei fferm deuluol, ac mae nawr yn cyflogi tua 180 o staff yng nghanolbarth Cymru.
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
DevOpsGuys o Gaerdydd - Ers dechrau'n weddol fach yn 2014, mae'r cwmni wedi tyfu i fod yn gwmni TG sy'n cyflogi dros 80 o staff ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol;
IQE o Gaerdydd - Arweinydd byd o ran dylunio a gweithgynhyrchu haenellau lled-ddargludol uwch;
Sure Chill o Gaerdydd - Cwmni technoleg oeri arloesol sy'n gobeithio chwyldroi'r ffordd mae'r byd yn oeri.
Rhyngwladol
Angela Gorman o Gaerdydd - Fe wnaeth Ms Gorman sefydlu Life for African Mothers yn 2006, ac mae degau o filoedd o fywydau wedi cael eu hachub o ganlyniad i'w hymdrechion;
GÔL! o Gaerdydd - Sefydliad elusennol sy'n cael ei redeg gan gefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, sydd wedi ymweld â chartrefi ac ysbytai plant mewn mwy na 40 o wledydd ac wedi cynnal sesiynau hyfforddi o Efrog Newydd i Affrica;
Mike a Colette Hughes yn Rwanda - Yn fuan ar ôl hil-laddiad Rwanda, helpodd Mr a Ms Hughes i sefydlu'r Rwanda UK Goodwill Organisation i gefnogi datblygiad yno;
The Phoenix Project o Gaerdydd - Prosiect yn cwmpasu tri maes eang, sef menywod, plant, a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.
Chwaraeon
Aled Siôn Davies - Pencampwr y byd deirgwaith, enillodd ddwy fedal aur Paralympaidd yn Rio 2016;
Alun Wyn Jones - Capten tîm rygbi cenedlaethol Cymru a'r Gweilch;
Hollie Arnold - Hi yw'r pencampwr Paralympaidd presennol, sy'n dal y record byd ar gyfer y waywffon F46.
Person ifanc
Bethany Roberts o Aberdaugleddau - Wedi cynrychioli pobl ifanc ar Gyngor Tref Aberdaugleddau ac wedi bod yn Gadeirydd ar Gyngor Ieuenctid Sir Benfro;
Jasmine Williams o Lanilltud Faerdref - Llwyddodd i godi £2,774 i helpu mynd i'r afael â phroblem digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf;
Mercy Ngulube o Gaerdydd - Cyn-Gadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Cymdeithas HIV Plant sy'n cynnal ymgyrchoedd ar ran pobl ifanc sy'n byw â'r cyflwr.