Medal efydd i Laura Deas yn ras y sled sgerbwd
- Cyhoeddwyd
![Laura Deas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/A485/production/_100071124_519a28f8-6bc4-4ef6-889d-de2657553ee5.jpg)
Mae Laura Deas wedi cipio medal efydd yng nghystadleuaeth y sled sgerbwd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn PyeongChang, De Corea.
Erbyn diwedd dydd Gwener roedd y ferch 29 oed o bentref Llanfynydd yn Sir y Fflint yn y pedwerydd safle ar gyfanswm amser.
Ond fe lwyddodd i fynd i'r trydydd safle ddydd Sadwrn ar ôl i Janine Flock o Awstria gael rhediad gwael.
Aelod arall o dîm Prydain gipiodd y fedal aur, Lizzy Yarnold, tra bod yr Almaenes Jacqueline Loelling wedi cael y fedal arian.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018