Llinor ap Gwynedd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma
- Cyhoeddwyd
Yr actores Llinor ap Gwynedd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Sharon Roberts wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae'n rhaid fy mod yn ifanc iawn. Cofio bod mewn cot, a gweld wynebau siriol fy rhieni yn eu gwely, yn edrych lawr arna'i.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
John Taylor, basydd Duran Duran.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cystadleuaeth Côr Cymru, yn canu gyda Chôrdydd. O achos stori ar Pobol y Cwm, ro'n i wedi eillio fy mhen. Ro'dd y gystadleuaeth ar y teledu cyn bod y bennod torri'r gwallt wedi'i darlledu, felly ro'dd yn rhaid i mi wisgo wig.
Yn anffodus, yn hytrach nag edrych fel fy ngwallt hir cyrliog naturiol i, ro'n i'n ymdebygu fwy i Siarl yr 2ail. Ro'dd pawb yn chwerthin ar fy mhen... yn cynnwys fy mam!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dagrau mawr? Mis Medi, pan fu'n rhaid i ni ffarwelio â Lleu y ci. Torri calon.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Stwff gweinyddol, ariannol, diflas. Tueddiad i aros tan yfory cyn mynd ati.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dyffryn Tywi. Llandeilo o'dd fy nghartref cynta'. Symudodd Nain a Taid i'n tŷ pan ethon ni i Gwmgors, a ro'dd Mamgu a Tadcu eisoes yn byw yn Llangadog. Felly treuliais tipyn o mhlentyndod yno. Dyna fy nghartref ysbrydol.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson ein priodas. Teulu, ffrindiau, canu, bwyd da a lot o wenu.
O Archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Yn ôl fy ngŵr - penderfynol, positif, chilled ("pam 'neud nawr rhywbeth alli di 'neud mewn tair/pedair wythnos!")
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Methu dewis un llyfr, ond cafodd y ddrama un act Mountain Language gan Harold Pinter gryn effaith arna'i.
Methu dewis ffilm chwaith! Ond y ffilm wnes i wylio fwya' yn fy ieuenctid (a gw'bod pob gair o'r sgript!) o'dd The Blues Brothers.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Bydden i wrth fy modd yn cwrdd â fy arwr cerddorol James Taylor. Ymweld ag e yn Martha's Vineyard a gwrando ar stori'i fywyd... trwy gân!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Ro'n i'n aelod o sgwad hoci Cymru dan 16.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Deffro yn Queenstown, Seland Newydd. Mynd i Milford Sound am y tro olaf, a hedfan nôl i Gymru (yn wyrthiol o gyflym). Noson gyda theulu a ffrindiau annwyl. (Bydd James Taylor yno hefyd yn canu yn y cefndir!)
Beth yw dy hoff gân a pham?
Amhosib dewis. Ond ma' un gân yn 'neud i fi wenu bob tro rwy'n 'i chlywed - Côr Telyn Teilio yn canu Dyffryn Tywi. Mam yw un o'r ddwy sy'n canu'r top soprano!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Squid, hwyaden, caws fydde'r dewis o'r bla'n. Ond y dyddie 'ma, afocado, tofu a phwdin heb dairy sydd yn mynd â mryd i.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Theresa May, i roi diwedd ar y nonsens Brexit 'ma.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Ceri Wyn Jones