Biggar, Halfpenny a Williams yn ôl i herio Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae Dan Biggar, Liam Williams a Leigh Halfpenny yn ôl i Gymru i herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn ddydd Sadwrn.
Fel yn erbyn Lloegr, bydd yr asgellwr George North yn dechrau'r gêm ar y fainc.
Dyw'r wythwr Taulupe Faletau, y maswr Rhys Patchell na'r asgellwr Josh Adams yn rhan o'r garfan o 23 fydd yn herio'r Gwyddelod.
Dywedodd hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde, ddydd Llun fod pob aelod o'r garfan ar gael ar gyfer trydedd gêm Cymru yn y bencampwriaeth.
Mae Faletau wedi cael ei ryddhau o'r garfan i chwarae i'w glwb, Caerfaddon, yn erbyn Sale ddydd Sadwrn.
Mae Cymru'n teithio i Ddulyn yn gobeithio taro 'nôl ar ôl colli i Loegr yn eu gêm ddiwethaf, a hynny wedi buddugoliaeth yng ngornest agoriadol y bencampwriaeth yn erbyn Yr Alban.
Bydd y prif hyfforddwr Warren Gatland yn gobeithio am fuddugoliaeth, a hithau'n y 100fed gêm iddo fod yn rheolwr y tîm cenedlaethol.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Liam Williams, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (c), Aaron Shingler, Josh Navidi, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Aled Davies, Gareth Anscombe, George North.
Tîm Iwerddon
Rob Kearney; Keith Earls, Chris Farrell, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Johnny Sexton, Conor Murray; Cian Healy, Rory Best (c), Andrew Porter, James Ryan, Devin Toner, Peter O'Mahony, Dan Leavy, CJ Stander.
Eilyddion: Sean Cronin, Jack McGrath, John Ryan, Quinn Roux, Jack Conan, Kieran Marmion, Joey Carbery, Fergus McFadden.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2018