Lluniau: Traethau Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae tri o draethau Cymru wedi cyrraedd rhestr 10 uchaf y traethau gorau yn y DU gafod eu dewis gan ddefnyddwyr gwefan deithio TripAdvisor, dolen allanol. Roedd dau o draethau Penrhyn Gŵyr - Rhosili (3) a Thri Clogwyn (8) - ar y rhestr ynghyd â Bae Barafundle yn Sir Benfro (10). Mae'r tri yn yr oriel hon ynghyd ag ambell un arall fyddai'n llwn haeddu bod ymhlith y goreuon.

Ffynhonnell y llun, Andrew Burton
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Bae Barafundle yn Sir Benfro yn un o'r llecynnau gorau am bicnic!

Ffynhonnell y llun, Andrew Turner
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Mawr, Tŷ Ddewi. Un o draethau syrffio gorau'r wlad

Ffynhonnell y llun, Brian Toward
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Llyfn rhwng Porthgain ac Abereiddi - dim ond un ffordd sydd i lawr i'r traeth 'ma, felly byddwch yn wyliadwrus o'r llanw uchel!

Ffynhonnell y llun, Brian Miller
Disgrifiad o’r llun,

Yr Aber Bach (Little Haven) - lleoliad braf yn Sir Benfro i weld machlud haul

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth braf Rhosili ar Benrhyn Gŵyr yn gyson yn cael ei ddewis fel un o'r goreuon yn y DU

Ffynhonnell y llun, Jim Ennis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Borth-y-gest ger Porthmadog wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr ers degawdau

Ffynhonnell y llun, Marc Sayce
Disgrifiad o’r llun,

Llansteffan, un o drysorau Sir Gâr

Ffynhonnell y llun, Michael
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweddillion coedwig i'w gweld pan mae'r llanw'n isel yn Borth ger Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, ADRIAN EVANS
Disgrifiad o’r llun,

Mae goleudy y Parlwr Du, pwynt mwyaf gogleddol tir mawr Cymru ar draeth Talacre, Sir y Fflint. Ar lanw uchel, mae'n cael ei dorri i ffwrdd oddi wrth y traeth felly peidiwch mynd yn sownd!

Ffynhonnell y llun, Amanda Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bae Dwnrhefn, Southerndown ei ddynodi fel rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn 1972

Ffynhonnell y llun, Julie Heycock
Disgrifiad o’r llun,

Wyddoch chi fod Bae'r Tri Chlogwyn yng Ngŵyr wedi ymddangos mewn fideo o un o ganeuon y band enwog, Red Hot Chilli Peppers?