Ydy dramâu teledu yn dangos gormod o drais yn erbyn merched?

  • Cyhoeddwyd
Rhodri MeilirFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Rhodri Meilir yn portreadu'r cymeriad Dylan Harris yn Craith

Oes yna ormod o olygfeydd sy'n dangos trais yn erbyn merched ar ddramâu teledu yn ddiweddar?

Dyna gwestiwn wnaeth ysgogi trafodaeth ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru ddydd Mercher.

Er i gyfres Collateral wynebu beirniadaeth, dolen allanol yr wythnos yma, y rhaglen ddaeth dan y lach oedd cyfres ddrama Craith ar S4C, sy'n dod i ben nos Sul yma.

Mae'r gyfres eisoes wedi derbyn beirniadaeth am "beidio rhoi rhybudd digonol cyn dangos hunan-niweidio" [gwefan golwg360]., dolen allanol

Ond roedd un o'r cyfranwyr ar Taro'r Post, Myfanwy Alexander, wedi cyhuddo'r ddrama o glodfori "rapertainment" drwy olygfeydd "sadistaidd".

Dywedodd ei bod hi'n bosib creu "stori afaelgar... heb olygfeydd treisgar".

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Myfanwy Alexander

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Myfanwy Alexander

Mewn datganiad i Taro'r Post fe ddywedodd Caryl Lewis, un o awduron cyfres Craith, ei bod hi'n "syndod i mi bod Craith yn cael ei chynnwys yn y ddadl hon am drais yn erbyn menywod".

"Un o brif themâu Craith yw y modd y mae dynion yn meddwl am ac yn ymddwyn tuag at fenywod," meddai.

"Roedd edrych ar y ffyrdd y mae dynion yn meddwl bod ganddynt rhyw hawl dros gyrff benywaidd yn un o brif amcanion y gyfres. Mae'n ddrwg gennyf fod rhai wedi dehongli neu ddewis dehongli pethau yn wahanol.

"Mae termau difrifol ac ymfflamychol fel 'rapertainment' yn cael eu taflu ar hyd y lle. Does 'na DDIM golygfa yn y gyfres lle ymhyfrydir yn nhrawma Megan. Mae'r golygfeydd wedi eu ffilmio o'i phersbectif hi nid Dylan.

Craith
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actores Gwyneth Keyworth yn chwarae rhan Megan, merch fregus sy'n cael ei chipio a'i chaethiwo

"Dyw'r ffaith ei bod wedi ei charcharu ddim yn ddyfais blot ddiog ond yn hytrach yn ymdrech i astudio merch fregus sy'n gwrthod ildio - sy'n dangos ei chryfder. Dangos y goleuni drwy'r tywyllwch.

"Mae menywod cryfion rif y gwlith yn y gyfres. Yn beneithied yn yr orsaf heddlu ac yn y gwaith chwarel. Ac fe roedd merched tu ôl i'r gyfres yn gynhyrchwyr ac yn sgwennwyr.

"Dwi yn bersonol yn gweld hi'n drueni fod darlleniad argraffiadol a diog o'r gyfres yn golygu bod ymdrech gan dîm sy'n cynnwys gymaint o ferched i dynnu sylw at y themâu yma yn cael ei llusgo i mewn i'r ddadl hon."

Ychwanegodd bod "unrhyw awgrym y buaswn yn rhan o dîm sy'n ymhyfrydu mewn trais yn erbyn merched... yn wrthun i mi".

Gwrandewch ar ymateb Caryl Lewis yn llawn yma.

Er gwaetha'r feirniadaeth, mae'n amlwg bod digon o gefnogaeth i gyfres Craith:

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan geraint lovgreen

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan geraint lovgreen
Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 3 gan Shoned Worsley

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 3 gan Shoned Worsley
Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 4 gan Gwawr thomas

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 4 gan Gwawr thomas