Y cyn filwr sydd bellach yn heddychwr

  • Cyhoeddwyd
rhys
Disgrifiad o’r llun,

Helpodd Rhys Thomas i sefydlu Ambiwlans Awyr Cymru wedi iddo ddod adre o'r fyddin

Mae Rhys Thomas wedi cael gyrfa fel doctor, milwr, ffermwr ac ymgyrchydd yn y maes iechyd.

Fe gyrhaeddodd y safle is-gapten (Lt Col) yn y fyddin a gweithio gyda'r Parachute Regiment gan fynd i Sierra Leone, Afghanistan, Irac a Gogledd Iwerddon.

Ond wedi 17 mlynedd yn y fyddin, oedd yn cynnwys cyrch i ddod o hyd i Osama Bin Laden, mae ei agwedd tuag at ryfel wedi newid.

Mae'n trafod pam a sut ar raglen Beti a'i Phobol, BBC Radio Cymru.

"Beth ddysges i mas mewn rhyfel oedd nad oes gen neb ffydd nes bod rhywun yn trio lladd nhw," meddai Rhys Thomas.

"Does dim byd yn gwella gyda rhyfel mewn gwirionedd heblaw un peth, sef meddygaeth.

"O'r rhyfeloedd es i iddynt, beth wellodd oedd resuscitation, a'r technegau wnaethon ni ddefnyddio sydd bellach yn cael eu defnyddio ar draws y byd."

Roedd Rhys Thomas yn un o'r cyfarwyddwyr a sefydlodd Ambiwlans Awyr Cymru yn 2015, gan hedfan i ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru i drin cleifion.

"Mae'n amhosib mynd drwy fywyd heb gael creithiau," meddai "a be sy'n fy nghadw i fynd yw'r ffaith fod y pethau dwi'n gwneud yn helpu pobl, a bod fy ngwybodaeth yn cael ei basio 'mlan i'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru a sefydlu'r gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

"Bysai'n neis os fysai Cymru annibynnol yn cymryd esiampl Y Swistir - byddai dim angen byddinoedd yn y byd delfrydol!"

Disgrifiad o’r llun,

Rhys gyda chyflwynydd Beti A'i Phobol, Beti George. "Mae'n amhosib mynd drwy fywyd heb gael creithiau," meddai

Milwr neu feddyg?

Mae gan Rhys ddau frawd a dwy chwaer, ac aeth y tri o'r meibion i'r fyddin er mai ffermio roedd y teulu'n ei wneud ers cenedlaethau.

"Bues i'n gweithio yn Abertawe gyda'r awdurdod iechyd, ond doeddwn i ddim wir yn hapus yno - roeddwn i'n rhy fishi," meddai.

"Felly fe benderfynais fynd i'r fyddin, ac wedi i mi fynd fe ddilynodd y ddau frawd iau."

Aeth Rhys i ysbyty athrofaol y Royal Free yn Hampstead i astudio meddygaeth cyn mynd ymlaen i academi filwrol Sandhurst. Roedd yn y fyddin am 17 mlynedd, ond ai milwr neu feddyg oedd Rhys?

"Mae'n anodd... achos mae rhaid ffeindio'r cydbwysedd. Roeddwn i yn filwr, achos roedd rhaid bod yn un er mwyn bod yn y sefyllfa i roi triniaeth i'r cleifion," meddai.

"Hefyd, os oedd y galwad yn dod mae'r hawl ganddoch chi i edrych ar ôl ac amddiffyn y cleifion, gyda dryll neu unrhywbeth arall - ac fel meddyg roedd sawl dryll gyda fi."

'Saethu'n farw o 'mlaen i'

"Roeddwn i'n swyddog ac felly roedd rhaid dangos esiampl i'r dynion oeddwn i'n gyfrifol drostyn'," meddai Rhys Thomas a fu mewn rhyfel ym mhob blwyddyn o'i yrfa filwrol

"Y lle cyntaf es i gyda'r fyddin oedd Sierra Leone, ac roedd hynny yn baptism of fire. Roedden ni'n mynd mewn i'r jyngl i nôl 15 o filwyr o'r gatrawd Wyddelig oedd wedi eu dal yn wystlon," meddai.

"Aethon ni fewn ar hofrennydd Chinook, ac aeth e'n wael o'r dechrau. Weles i fachan o mlaen i... yn neidio o'r hofrennydd i'r pentre' a chafodd ei saethu'n farw reit o 'mlaen i. Fi oedd yn neidio yn syth ar ei ôl, ond gafon ni ein dysgu i jest pwsho 'mlaen.

"Roedd rhaid i fi drin y dynion oedd wedi dioddef anafiadau o ymosodiad mortar. Roedd e'n sefyllfa debyg i beth oedd yr Americanwyr yn ei wynebu yn Fietnam."

Trobwynt 9/11

"Pan weles i'r awyrennau yn mynd mewn i'r adeiladau [yn Efrog Newydd] o'n i'n gwybod byddai fy mywyd yn newid, ac fe wnaeth. Ges i'r orders o fewn diwrnod i fynd i Afghanistan i fynd ar ôl Osama Bin Laden, yn y mynyddoedd i'r gogledd o Kabul.

"Roedden ni'n meddwl bo' ni wedi ei gornelu yn ogofâu'r Tora Bora, ond roedd cytundeb mai'r Americanwyr fyddai'n cael ei ddal ac yn y pen draw fe wnaeth ddianc.

"Wrth chwilio am Bin Laden roedd 'na frwydro ffyrnig ac roeddwn i'n trin y dynion gydag anafiadau mawr. Er mod i'n ffit, roedd yr altitude yn golygu bod ni methu cael ein gwynt ac roedd pen tost gen i bob bore, coesau'n drwm ac roedden ni'n rhewi - roedd yn gallu bod yn -20C.

"Es i Irac hefyd, lle roeddwn i'n symud yn gloi drwy'r wlad a diogelu'r meysydd olew yn y de."

Disgrifiad o’r llun,

Thirwedd a thywydd di-drugaredd Afghanistan, lle roedd Rhys yn chwilio am Bin Laden

Nôl yng Nghymru

Cafodd Rhys alwad ffôn gan ei fam pan oedd yn y fyddin yn dweud eu bod nhw am ymddeol a gwerthu'r fferm.

"Wnes i roi stop ar hynny a dweud fy mod i am ddod adre," meddai.

"'Dwi nôl yn y fferm lle ges i fy magu. Roedd hiraeth y cythraul 'da fi am Gymru ac o'n i'n teimlo 'mae rhaid i fi fynd adref'.

"Y ffordd orau, meddyliais, allwn i helpu Cymru oedd drwy ymdrechion gwleidyddol."

Mae eisiau helpu pobl ei ardal bellach meddai Rhys Thomas ac fe hoffai fod yn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru rhyw ddydd "a thrawsnewid y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."

"Dwi yn poeni am sefyllfa Cymru yn mynd mewn i Brexit, mae Lloegr mewn lot gwell lle na ni, a hefyd Yr Alban ac Iwerddon. Da ni'n dibynnu mwy ar Ewrop.

"Mae'r talent gyda ni, ac mae'r potensial gyda ni wella."

Mae Beti a'i Phobol gyda Rhys Thomas yn cael ei ddarlledu ddydd Sul, 4 Mawrth am 12.00 ar Radio Cymru gydag ailddarllediad ddydd Mawrth, 6 Mawrth