Pam fod cymaint o athrawon Cymraeg yn gadael y byd addysg?

Athrawes mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 396 o athrawon newydd eu hyfforddi ond fe adawodd 395 y maes ar gyfer 2022/23

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn methu ar eu hymdrechion i gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Fel rhan o'r nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr, maen nhw'n ceisio recriwtio bron i 400 o athrawon yn ychwanegol pob blwyddyn.

Er bod hynny wedi digwydd, mae yna nifer tebyg o bobl hefyd yn gadael addysg yn flynyddol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn hyfforddi athrawon a'u hannog drwy gymelliadau gwahanol.

Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn lle mae'r llwyddiant fan hyn?" hola Meirion Prys Jones

Mae'r miliwn o siaradwyr yn rhan o gynllun Cymraeg 2050 y llywodraeth ac mae cynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad yr iaith yn un o'u prif amcanion i gyrraedd hynny.

Maen nhw'n dweud, yn fras, bod angen 225 o athrawon uwchradd ychwanegol pob blwyddyn, yn ogystal â 153 o rai cynradd, sy'n gyfanswm o 378.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, dolen allanol ar gyfer 2022/23, cafodd 396 o athrawon newydd eu hyfforddi ond fe adawodd 395 y maes.

'Targed o filiwn o siaradwyr yn un uchelgeisiol'

Dywedodd un cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, corff oedd yn hyrwyddo'r iaith, nad yw'r ffigyrau yn sioc a bod diffyg cynllunio er mwyn sicrhau digon o athrawon.

"Mae'n rhan o batrwm ehangach mewn ffordd ynglŷn â diffyg cefnogaeth i'r Gymraeg, yn ymarferol a strategol [gan y llywodraeth]," meddai Meirion Prys Jones.

Dywedodd bod y targed o filiwn o siaradwyr yn un "uchelgeisiol, da", ond mai "ychydig o waith cynllunio a pharatoi sy'n digwydd" i'w gyrraedd.

"Pan mae rhywun yn edrych ar y data, mae'r cyfrifiad yn dangos fod y niferoedd wedi mynd lawr 2%, yr un nifer sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ag oedd yna yn 2010.

"Mae yna lai na hanner y niferoedd yn gwneud Lefel A yn Gymraeg yn gwneud hynny bellach felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn lle mae'r llwyddiant fan hyn?"

Dr Llinos Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Os nad ydi'r ffrwyth llafur yna'n cael ei amlygu ym maint y bobl sy'n ymgeisio am swyddi, mae wir yn bryder," meddai Dr Llinos Jones

Yn ôl pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, mae'r her o recriwtio wedi cynyddu ers y pandemig a bod prinder athrawon mewn ysgolion Saesneg hefyd.

"Mae'r ffaith bod dysgu o fewn yr ystafell ddosbarth yn golygu nad yw mor hyblyg â swyddi proffesiynol eraill… ac efallai fod hynny'n dylanwadu ar bobl wrth feddwl am yrfa," meddai Dr Llinos Jones.

Dywedodd bod y llywodraeth yn gwneud eu gorau i recriwtio mwy trwy farchnata a chynnig bwrsariaethau gwahanol, ond ychwanegodd:

"Os nad ydi'r ffrwyth llafur yna'n cael ei amlygu ym maint y bobl sy'n ymgeisio am swyddi, mae wir yn bryder."

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda sefydliadau gwahanol i greu cyfleoedd i hyfforddi ac astudio yn Gymraeg.

Mae prinder athrawon, yn enwedig ar gyfer y gweithlu Cymraeg mewn addysg, wedi cyrraedd "pwynt gwirioneddol argyfyngus", yn ôl y corff.

'Diffyg athrawon yn effeithio ar y gallu i greu siaradwyr Cymraeg'

Mae Rebecca Williams o'r coleg yn galw am system well ar gyfer cynllunio'r gweithlu addysg.

"Os nad ydyn ni'n gallu recriwtio digon o athrawon, bydd e'n effeithio ar allu'r system addysg ar lefel ysgol i greu siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr dyddiol o'r Gymraeg," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae cael gweithlu addysg digonol yn allweddol i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

"Rydym yn darparu cymelliadau i athrawon newydd, yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ac yn ariannu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r proffesiwn addysgu a phartneriaid wrth inni ddatblygu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.