Dyn wedi'i ladd mewn gwrthdrawiad 'cyfeiriad anghywir' A55

  • Cyhoeddwyd
A55 ger LlandygaiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd traffig rhwng cyffordd 11 a 12 yr A55 ei ddargyfeirio nos Fercher yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae un dyn wedi cael ei ladd ac un arall wedi'i anafu'n ddifrifol yn yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 ble roedd cerbyd yn teithio i'r cyfeiriad anghywir.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng dau gerbyd ger cyffordd 11 yn Llandygai, Gwynedd am tua 21:45 nos Fercher.

Bu car Nissan, oedd yn teithio i'r cyfeiriad anghywir, mewn gwrthdrawiad gyda char Hyundai lliw arian.

Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw i dorri dau berson yn rhydd o'u cerbydau, ac roedd y ffordd ar gau am sawl awr.

Ychwanegodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi anfon tri ambiwlans a cherbyd ymateb brys i'r digwyddiad, cyn cludo person i'r ysbyty.

Bu farw gyrrwr yr Hyundai yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod. Cafodd gyrrwr y Nissan ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol yn Stoke gydag anafiadau difrifol fydd yn newid ei fywyd.

Dywedodd y sarsiant Leigh Evans o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Y gred yw bod un o'r cerbydau yn teithio i'r cyfeiriad anghywir ar hyd yr A55.

"Mae ymchwiliad bellach wedi dechrau a hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y rhan hon o'r ffordd yr adeg honno allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r digwyddiadau wnaeth arwain ato."