Cynnal digwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Bydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn Llundain yn ystod y pythefnos nesaf i ddathlu dydd Gŵyl Dewi.
Wythnos Cymru yn Llundain sydd wedi trefnu'r digwyddiadau, sef prosiect sydd wedi'i ei sefydlu gan ddau berson busnes, Dan Langford a Mike Jordan.
Maen nhw'n dweud mai "ymateb aruthrol gan gymunedau Cymreig ledled Llundain" a "chefnogaeth gan bartneriaid a noddwyr" sy'n gyfrifol am lwyddiant y fenter, ac mai'r nod yw gwneud pobl yn ymwybodol o'r "hyn sy'n wych am Gymru a'i chynnyrch".
Ymhlith y digwyddiadau dros yr wythnosau nesaf mae taith gerdded fydd yn nodi dylanwad y Cymry ar Lundain, cinio gydag aelodau o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gŵyl rygbi fechan a chyfle i holi'r actor Michael Sheen.
Yn ogystal bydd noson gomedi Cymreig a digwyddiadau i hybu gwaith celf a bwyd a diod o Gymru.
'Ymateb anhygoel'
Dywedodd Dan Langford: "Mae'r ymateb eleni gan noddwyr, partneriaid a'r rhai sydd am gynnal digwyddiad yn Llundain wedi bod yn anhygoel.
"Ry'n hefyd yn falch o gydweithrediad Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gymreig sydd wedi'n cefnogi i hybu delwedd fodern o Gymru yng nghanol Llundain."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Mae Gŵyl Ddewi yn amser pan mae Cymry ar draws y byd yn dathlu eu gwreiddiau.
"Fel un o ddinasoedd rhyngwladol mwyaf cyffrous y byd mae'n gwneud synnwyr bod y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal o gwmpas dydd Gŵyl Dewi yn gwerthu Cymru i'r byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2015