Cynllun am safle i 32,000 o ieir ar fferm ger Llanrug
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd safle ger Caernarfon, a fydd yn cartrefu 32,000 o ieir, yn cael ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ddydd Llun.
Mae pwyllgor cynllunio y cyngor wedi annog cynghorwyr i roi caniatâd i'r cynllun fydd wedi'i leoli ar Fferm Plas Tirion ger Llanrug.
Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo bydd cwt mawr, tanc dŵr tanddaearol a dau seilo yn cael eu hadeiladu.
Mae'r datblygwr yn dweud mai cywion rhydd fyddai'n cael eu cadw yno ar gyfer cynhyrchu wyau buarth.