Pro14: Zebre 7-10 Gleision

  • Cyhoeddwyd
GleisionFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bu'n rhaid i'r Gleision frwydro am fuddugoliaeth dros Zebre mewn amodau rhewllyd yn Parma brynhawn Sul.

Aeth y Cymry ar y blaen wrth i'r asgellwr Owen Lane redeg trwy amddiffyn yr Eidalwyr o'i hanner ei hun i sgorio wedi 28 munud.

Cafodd ei throsi gan Jarrod Evans cyn iddo ychwanegu gôl gosb.

Ond fe wnaeth Zebre daro 'nôl cyn hanner amser, gyda Giovanbattista Venditti yn rhyng-gipio am gais gafodd ei throsi gan Guglielmo Palazzani.

Ni lwyddodd yr un tîm i ychwanegu at y sgôr yn yr ail hanner, a llwyddodd y Gleision i gadw eu gafael ar y fuddugoliaeth.