Owain Rhys yn ennill Coron Eisteddfod Wrecsam

Mae Owain Rhys yn wreiddiol o Landwrog, ond wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers ei fod yn 14 oed
- Cyhoeddwyd
Owain Rhys o Gaerdydd sydd wedi ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Daw yn wreiddiol o Landwrog, ger Caernarfon, ond mae wedi byw yn y brifddinas ers ei fod yn 14 oed.
Mae'n fab i Manon Rhys - enillydd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod yn 2015.
Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd ysgrifennu pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adfeilion'.
Tri o gyn-enillwyr y goron - Ifor ap Glyn, Siôn Aled a Gwyneth Lewis - oedd y beirniaid.
Dywedodd Owain Rhys ei fod yn "teimlo bod rhaid i fi ganu am y profiad oedd gen i - Mam yn colli ei chof"
Mae Owain Rhys yn wreiddiol o Landwrog ond mae bellach yn byw yn y Tyllgoed gyda'i briod, Lleucu Siencyn, a'i blant, Gruffudd a Dyddgu.
Ar ôl gweithio i Amgueddfa Cymru am dros 20 mlynedd, mae nawr yn gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol a gwerth cymdeithasol.
Bu'n aelod o dîm Aberhafren, a ddaeth i'r brig ddwywaith ar raglen Radio Cymru, Talwrn y Beirdd.
Mae hefyd wedi bod yn fuddugol yng nghystadlaethau'r englyn a'r englynion milwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
Mae ganddo radd mewn archaeoleg, ac MA mewn Astudiaethau Amgueddfaol.
Mae wrth ei fodd yn teithio Cymru a'r byd i weld cestyll, adfeilion, a beddrodau, ac mae'n gefnogwr tîm pêl-droed Wrecsam ers y 1970au.
Mae'n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Nant Caerau ers 2010 ac yn gadeirydd cangen Caerdydd o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), ac yn ymddiriedolwr ar eu Bwrdd Cenedlaethol.

Ifor ap Glyn fu'n traddodi'r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn
Llif 2 oedd ffugenw'r gwaith buddugol, ac Ifor ap Glyn fu'n traddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan.
Dywedodd fod y casgliad yn trafod byw gyda rhywun sy'n dioddef gyda dementia, sef mam y bardd.
"Mae'n ymdriniaeth dawel a sensitif â'r hyn sydd yn rhaid ei wneud i helpu'r fam barhau i fyw'n urddasol wrth i'w chof hi ddadfeilio," meddai.
"Mae'r casgliad yn cyflwyno darlun tyner o sefyllfa anodd sy'n wynebu cymaint o deuluoedd heddiw, a synhwyrwn ddyfnder teimladau'r bardd tuag at ei fam, a'i chadernid gynt.
"Dyma gasgliad grymus a chyfoethog a gydiodd ynof i ar y darlleniad cyntaf, gyda phob darlleniad wedyn ond yn datgelu haenau pellach i'w gwerthfawrogi."
Ychwanegodd fod dau arall y gellid bod wedi eu coroni, sef Hafgan a Traed yn Dŵr.
'Rhaid i fi ganu am y profiad oedd gen i'
Yn siarad gyda BBC Cymru wedi'r seremoni dywedodd Owain Rhys ei bod yn "galondid" clywed bod y gystadleuaeth yn un gref, gyda 12 ymgeisydd yn y dosbarth cyntaf, a thri y gellid bod wedi coroni.
Dywedodd ei fod wedi cael ei ysgogi i ysgrifennu tua blwyddyn yn ôl, wrth iddo "deimlo bod rhaid i fi ganu am y profiad oedd gen i - Mam yn colli ei chof".
"O'n i eisiau rhoi'r peth ar glawr, a digwydd bod, oedd y testun yn ffitio.
"Felly es i ati wedyn i roi'r cerddi fewn yn y testun, yn hytrach na chael y testun i ffitio'r cerddi."
Dyluniad y goron
Mae'r goron eleni wedi'i chreu gan Neil Rayment ac Elan Rowlands - y ddau a greodd goron Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.
Mae hi wedi'i hysbrydoli gan y ffosiliau hynafol gafodd eu darganfod yng Nghoedwig Brymbo – sy'n dyddio'n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i'r cyfnod Carbonifferaidd.
Yn amgylchynu'r goron mae patrwm organig ailadroddus ac o fewn y patrymau mae dyddiadau allweddol sy'n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam.
Mae rhain yn cynnwys dechrau chwyldro diwydiannol Wrecsam yn 1782 a chychwyn adeiladu Traphont Pontcysyllte yn 1795.

Mae'r goron wedi'i dylunio a'i chreu gan yr un crefftwyr â'r llynedd
Mae hefyd yn cynnwys dyddiad sefydlu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 1864, lansio Lager Wrecsam yn 1882 a'r flwyddyn y creodd James Idwal Jones yr atlas hanesyddol cyntaf o Gymru yn 1900.
Mae'r gair WRECSAM wedi'i osod ar draws y goron sy'n deyrnged i'r arwydd "Wrexham" arddull Hollywood eiconig gafodd ei ddatgelu yn 2021.
Mae'r goron yn cael ei noddi gan Elin Haf Davies, a'r wobr ariannol o £750 yn cael ei chyflwyno gan Prydwen Elfed Owens.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl