Llafur wedi trawsnewid agweddau at yr iaith Gymraeg - Morgan

Eluned Morgan yn eistedd yn stiwdio Radio Cymru. Mae'n gwisgo cot law gwyn ac yn dal par o glustffonau.
Disgrifiad o’r llun,

Bu Eluned Morgan yn siarad yn fyw ar Dros Frecwast o Faes yr Eisteddfod fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae agweddau pobl at yr iaith Gymraeg wedi "trawsnewid" dros y 40 mlynedd ddiwethaf - a'r Blaid Lafur sy'n gyfrifol am hynny, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Eluned Morgan bod defnydd yr iaith yn llai "artiffisial" erbyn heddiw oherwydd llwyddiannau ei phlaid hi.

Ond yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mae tystiolaeth yn dangos bod yr iaith "yn colli tir".

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod y llywodraeth yn "methu eu targedau eu hunain dro ar ôl tro" a bod angen parhau i frwydro i gynyddu defnydd o'r iaith.

Soniodd Ms Morgan am ei phlentyndod a'i haddysg yng Nghaerdydd gan ddweud yr oedd yn gyfnod "artiffisial" i'r iaith.

"Doedd dim lot o Gymraeg yng Nghaerdydd adeg yna," meddai.

"Os o' chi isie clywed Cymraeg mewn cwmwl gwbl Gymreig roedd rhaid i chi fynd i'r Steddfod – dyna lle roedd hi ddim yn artiffisial."

Ond erbyn heddiw, meddai, mae'r agwedd wedi "trawsnewid".

"Dwi 'di sôn sawl gwaith am y ffordd pan es i ysgol Gymraeg roedd pobl yn taflu cerrig at y bysys achos bo' nhw ddim isie ysgol Gymraeg yn eu hardal nhw.

"Ma' hwnna wedi gwedd-newid nawr a dwi'n meddwl bo' hwnna o ganlyniad i polisïau gwleidyddol y Blaid Lafur.

"Ma'r Gymraeg yn perthyn inni gyd a ni'n gweld y cynnydd yna. Un ysgol gynradd Cymraeg oedd yn y brifddinas, erbyn heddi' ma' dros 20."

Pabell Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i bobl Cymru "frwydro" dros yr iaith Gymraeg, meddai Cymdeithas yr Iaith

Mewn ymateb dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod angen i'r llywodraeth "ddeffro".

"Mae'n anodd llyncu sôn am 'gynnydd' o ystyried ffigurau'r Cyfrifiad, a ddangosodd gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2011 ac eto yn 2021."

Ychwanegodd y gymdeithas bod twf mewn addysg Gymraeg wedi arafu ers datganoli, wrth i'r llywodraeth "fethu eu targedau eu hunain dro ar ôl tro".

"Mae pobl Cymru wedi gorfod brwydro am bob peth sydd ganddon ni, ac os ydyn ni am ddeffro'r llywodraeth gysglyd a hunanfodlon yma, mae'n amlwg y bydd rhaid parhau i frwydro."

Nid protestio a phobl yn mynnu addysg Gymraeg sydd hefyd wedi cyfrannu, yn ôl y prif weinidog, ond "pobl tu fewn i'r Blaid Lafur yn brwydro hefyd".

"Y Blaid Lafur sydd wedi bod yn arwain yn y llywodraeth dros y 25 mlynedd diwethaf, ac hefyd wedi bod yn arwain yn llywodraeth leol yn nifer o'r ardaloedd hynny ac ma' pobl tu fewn i'r Blaid Lafur wedi bod yn brwydro hefyd," ychwanegodd Ms Morgan.

"Felly beth sydd wedi digwydd yw bod yr adain yna o'r Blaid Lafur wedi cyflawni ac wedi delifro," meddai.

Ychwanegodd ein bod ni'n gweld "gweddnewid" yn yr ymateb tuag at yr iaith ar draws Cymru.

'Iaith yn colli tir'

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod tystiolaeth yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn "pwyntio at rywbeth gwahanol".

"Dwi'n bryderus iawn bod y llywodraeth yn meddwl bod popeth yn mynd yn iawn o ran datblygiad y Gymraeg o dan ei harweinyddiaeth nhw," meddai.

"Ma'r dystiolaeth yn pwyntio at rywbeth gwahanol.

"'Dyn ni wrth gwrs yn cefnogi'r targed o filiwn o siaradwyr - mae'n hawdd iawn d'eud miliwn o siaradwyr ond be' dwi'n chwilio amdano fo yw tystiolaeth o be' ma'r llywodraeth yn barod i wneud i gyrraedd y miliwn o siaradwyr hwnnw."

Rhub ap Iorwerth yn gwisgo crys las a siaced las. Mae'n sefyll o flaen arwyddion mawr Plaid Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Dylanwad Plaid Cymru sydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygiadau yn yr iaith Gymraeg, meddai Rhun ap Iorwerth

Yn ôl Rhun ap Iorwerth: "Mae'r dystiolaeth 'da ni yn weld yn ddiweddar yn dangos bod yr iaith yn colli tir."

Dywedodd bod deddfau'r Gymraeg, gan gynnwys yn Bil y Gymraeg ac Addysg rhannol wedi llwyddo oherwydd "dylanwad" Plaid Cymru.

"Nhw [Llafur] yw'r blaid sydd wedi bod mewn grym a sydd wedi gorfod cael ei dylanwadu gan Blaid Cymru i wneud, a chymryd camau," meddai.

"Mae angen gweithredu yn draws bleidiol er mwyn annog defnydd y Gymraeg a dwi'n falch ein bod ni yn cydweithio yn draws bleidiol a bod yn fwy cadarnhaol tuag at ddyfodol yr iaith.

"Ond os ydy'r llywodraeth yn meddwl bod... d'eud miliwn o siaradwyr yn rhywbeth i ni orffwys ar ein rhwyfau yn ei gylch, yna dwi'n bryderus iawn."