'Mae'n gwylltio fi': System gofal plant Cymru wedi torri - ymchwil

Mae Leusa Marie Wright, 31, wedi oedi'r penderfyniad i gael mwy o blant oherwydd costau gofal
- Cyhoeddwyd
Mae system gofal plant Cymru wedi "torri" ac yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Dywedodd Sefydliad Bevan, sy'n gorff annibynnol, bod rhai rhieni yn gadael eu swyddi am fod prisiau gofal plant mor uchel.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gymorth i deuluoedd - yn enwedig i rai sy'n gofalu am blant rhwng naw mis a dwy oed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n buddsoddi mwy na £150m eleni a bod cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth i deuluoedd sydd wir ei angen.
Beth ydy'r sefyllfa?
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 30 awr o ofal am ddim am 48 wythnos y flwyddyn i blant rhwng tair a phedair oed.
Mae cynllun hefyd ar waith i gynnig 12.5 awr o ofal am ddim i blant dwy oed.
Ond dim ond mewn rhai ardaloedd mae'r cynllun hwnnw ar gael, ac mae'n cael ei gyflwyno'n raddol.
Yn Lloegr, mae 15 awr o ofal am ddim yn cael ei gynnig i deuluoedd sydd â phlant rhwng naw mis a dwy oed, gyda'r ddarpariaeth yn cynyddu dros amser wedyn.

Yn ôl Leusa Marie Wright, sy'n byw yn Wrecsam ac sydd â bachgen sydd bron yn dair oed, mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn annheg.
"Mae'n gwylltio fi," meddai. "Mae bendant yn newid sut ydan ni'n meddwl cael mwy o blant - wedi oedi'r penderfyniad.
"Mi oeddem ni eisiau dipyn o blant yn reit agos at ei gilydd ond oherwydd costau 'sa fo jest heb weithio a fasa ni wedyn 'di cael dau blentyn yn cael gofal.
"Basa fo ddim yn neud synnwyr - basa fo be 'swn i'n cael fy nhalu am y mis."

Mae Catrin Hughes yn dweud fod costau gofal yn bwnc sy'n codi'n aml ymysg mamau yn ei gweithdai
Mae Catrin Hughes yn cynnal gweithdai i famau newydd yn ardal Porthaethwy, Ynys Môn ac mae costau gofal yn bwnc sy'n codi'n aml, meddai.
"Mae costau byw yn mynd yn uwch... ac efo neiniau a teidiau yn gweithio yn hirach hefyd, 'da ni angen yr help allanol yna," meddai.
"Mae'n heriol ar gyfer teuluoedd a ma' lot yn meddwl dros y cyfnod yma 'ella 'sa'n well aros adref a dylen ni ddim mynd 'nôl i'n gwaith'.
"Ond wedyn mae hynny yn cael effaith ar gyfraniad pensiwn, statws yn y gweithle, dyrchafiad ella a chyfleoedd."

Jaco fydd plentyn olaf Ceri Jones oherwydd bod costau gofal yn golygu y byddai'n anodd rhoi chwarae teg i fwy na dau o blant, meddai
Yn sesiwn Dwylo Bach ym Mhorthaethwy, sy'n cael ei gynnal gan Catrin, roedd profiadau nifer o rieni yn debyg.
"'Da ni'n ofnadwy o lwcus bod gynnon ni neiniau a teidiau sy'n gwarchod sy'n lifesaver neu dwi'n yn meddwl 'swn i'n gallu fforddio gwneud bob dim a definite goro cytio lawr ar lot o luxuries," meddai Ceri Jones, sy'n 33 oed.
"'Da ni wedi gwneud y penderfyniad mai Jaco fydd [ein plentyn] olaf ni - dau allwn ni fforddio neu 'sa ni'm yn gallu rhoi chwarae teg iddyn nhw."
Ychwanegodd Mari Hanks, sy'n 32: "Mae bod yn fam newydd yn anodd fel ma'i heb sôn am feddwl am gostau, ac mae costau lot mwy na be' ma' nhw 'di bod.
"Ti'n gorfod meddwl faint o gap 'swn i'n gallu cael rhwng y plant... mae'n anodd."

Mari Hanks: "Mae bod yn fam newydd yn anodd fel mae hi"
Yn ôl Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan, mae'r system gofal plant wedi torri ac mae angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd.
"Does ganddon ni ddim cymorth o gwbl i'r plant yna rhwng naw mis a dyflwydd oed," meddai.
"Os yw'r cymorth ddim ar gael yn y lle cyntaf yna mae'r rhieni yn aml wedi gwneud y penderfyniadau yna o ran gofal, patrymau gweithio ac mae'n effeithio arnyn nhw am flynyddoedd i ddod."

Mae'r cymorth ei angen fwyaf ar rieni plant naw mis i ddyflwydd oed, meddai Dr Steffan Davies
Mae Mudiad Meithrin hefyd yn galw am gyllido gwell gan y lywodraeth nesaf ddaw i rym ar ôl yr etholiad ym mis Mai.
"Dwi'n meddwl fydde rhan fwyaf o bobl yn cytuno fod y system yn or-feichus ac yn or-gymhleth fel y mae hi," meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr Mudiad Meithrin.
"Mae 'na angen am fuddsoddiad pellach ac o drafod y Gymraeg ac os 'da ni am weld darpariaeth pellach.
"Y ffordd haws sydd ganddo ni o weld hynny ydy drwy weithio efo Mudiad Meithrin."

Mae'r system yn rhy gymhleth fel y mae hi, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi mwy na £150m eleni ar ddarpariaeth gofal, a bod rhaglen Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu i ragor o deuluoedd.
"Mae'r cynlluniau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i blant a theuluoedd ar draws Cymru," meddai llefarydd.
"Mae cynllun Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y teuluoedd sydd angen y mwyaf o help."
Ychwanegodd y llefarydd bod Cynnig Gofal Plant yn cynnig hyd at 30 o oriau yr wythnos o ofal plant sydd wedi'i gyllido gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
"Yn wahanol i Loegr mae hyn ar gael i rieni sydd mewn hyfforddiant ac addysg hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023