Ffrae snwcer: Mark Williams yn gwrthod ildio wedi beirniadaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bencampwr snwcer y byd, Mark Williams, wedi gwrthod ildio ar ôl i'w gyd-Gymro, Darren Morgan, ei gyhuddo o fod yn fwli ar-lein.
Roedd Williams wedi beirniadu'r ffaith fod Morgan a Rhydian Richards wedi cael cystadlu ym Mhencampwriaeth Agored Cymru, gan ddweud y dylai'r ddau ystyried eu hunain yn "ffodus".
Ar ôl i Morgan ddweud fod Williams wedi mynd yn rhy bell gyda'i sylwadau, a chamddefnyddio'i statws o fewn y gêm, fe ymatebodd Williams ar Twitter mai "peth hyll yw cenfigen" a bod Morgan yn "arfer dynwared chwaraewr snwcer" 30 mlynedd yn ôl.
Ond gwrthododd Williams â gwneud sylw pellach pan ddaeth y ddau wyneb yn wyneb mewn cyfweliad teledu, ar ôl iddo guro Mark King yn y rownd gyntaf. Mae Morgan yn aelod o dîm sylwebu BBC Cymru yn Arena Motorpoint, Caerdydd.
Does dim awgrym hyd yma bod unrhyw fwriad i gymryd camau disgyblu yn sgil y ffrae.
'Bwlio, nid tynnu coes'
Cafodd Morgan le yn y gystadleuaeth dan y drefn 'cerdyn gwyllt' ar ôl curo Jackson Page, 16 oed, yn rownd derfynol pencampwriaeth amatur fis diwethaf.
Dywedodd Williams ar Twitter ar 13 Chwefror mai Page ddylai fod wedi cael gwahoddiad i gystadlu yn y bencampwriaeth, ac nid Morgan, sy'n 51 oed ac yn chwaraewr amatur erbyn hyn.
Fe gafodd Morgan ei guro gan Richards ddydd Llun mewn gornest i benderfynu pa un o'r ddau fyddai'n cael cystadlu yn rownd gyntaf y Bencampwriaeth Agored.
Mewn ymateb i sylwadau Williams ar wefannau cymdeithasol, fe ddywedodd Morgan wrth BBC Cymru: "Mi wn ei bod yn amddiffyn Jackson ond mae e'n jôc llwyr.
"Mae e'n meddwl mai tynnu coes yw hyn ond mae yna ganlyniad i bopeth mae pobl yn ei wneud a'i ddweud... i lawer o bobl mae'n seibr fwlio, nid tynnu coes... mae'n camddefnyddio'i statws.
"Bwli yw e... keyboard warrior... ond mae'n osgoi cosb."
'Dynwared chwaraewr snwcer'
Fe wnaeth Williams ymateb ar Twitter gan ddweud ei fod yn "ddyn mewn oed" sy'n gallu derbyn beirniadaeth, cyn ychwanegu mai "peth hyll yw cenfigen".
Mewn ymateb i gwestiwn gan ddefnyddiwr arall pwy yw Morgan, atebodd Williams: "Rwy'n meddwl taw fe oedd y boi oedd yn arfer dynwared chwaraewr snwcer tua 30 mlynedd yn ôl."
Fel chwaraewr proffesiynol, fe wnaeth Morgan gyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth y Byd yn 1994, pan gollodd i Jimmy White yn y Crucible.
Dim ond ar ôl i Joe Swail dynnu'n ôl o'r gystadleuaeth y cafodd Jackson Page chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Cymru eleni.
Fe gurodd Sean O'Sullivan 4-3 yn y rownd gyntaf ddydd Llun ac fe fydd yn herio'r pencampwr presennol Stuart Bingham yn y rownd nesaf.
Gwrthod cyfarch ei gilydd wnaeth Williams a Morgan wrth i'r ddau ddod wyneb yn wyneb yn ystod cyfweliad teledu ar ôl i Williams guro Mark King 4-2 i sicrhau lle yn yr ail rownd.
"Mae'n well i mi beidio gwneud sylw," meddai Williams wrth y cyflwynydd Ian Hunt.
"Rwyt ti [Morgan] wedi dweud be ddudist ti, fe all pawb ei ddarllen, ac mae'n well gen i drafod y gêm heddiw, pa mor dda wnes i chwarae, a pha mor dda rydw i wedi chwarae trwy'r tymor.