Y delynores Catrin Finch yn dioddef o ganser y fron

  • Cyhoeddwyd
Catrin FinchFfynhonnell y llun, Rhys Frampton

Mae'r delynores Catrin Finch wedi cyhoeddi ar ei gwefan ei bod hi'n dioddef o ganser y fron.

Mewn datganiad fe ddywedodd ei bod hi ar fin dechrau triniaeth ar gyfer canser y fron gradd 3, ond bod modd ei drin am ei fod wedi cael ei ddarganfod yn gynnar.

Mae Ms Finch, sy'n fam i ddau o blant, yn adnabyddus am ei gwaith gyda cherddorfeydd ar draws y byd, a hi oedd y delynores gyntaf i gael ei phenodi i swydd Telynores Brenhinol Tywysog Cymru.

"Ar hyn o bryd rwyf o dan ofal tîm rhagorol y GIG yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, sy'n fy nghefnogi ar hyd fy nhriniaeth", meddai.

"Yn dilyn trafodaethau gyda fy nhîm, rydym wedi penderfynu canslo fy ymrwymiadau tramor cyfredol, ond mae'n bwysig iawn i mi barhau i chwarae a bydd fy ngherddoriaeth yn ddiau yn helpu rhoi ffocws i mi dros y misoedd nesaf.

"Rwyf felly'n bwriadu cyflawni cymaint o'm hymrwymiadau yn y DU a fydd fy nhriniaeth yn caniatáu i mi wneud yn ddiogel, gan gynnwys fy nyddiadau yn y gwanwyn gyda Seckou Keita."