Atal 27 o drenau wedi pryder am 'ddifrod sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Tren
Disgrifiad o’r llun,

Credir mai rhan o'r trac neu'r pwyntiau sy'n gyfrifol am achosi'r difrod i drenau

Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud fod 27 o drenau yn cael eu hatal o'r gwasanaeth dros dro oherwydd pryder am ddiogelwch.

Daw hyn wedi i beirianwyr y cwmni sylwi dros nos fod "difrod sylweddol" i olwynion rhai trenau.

Y gred yw mai nam gyda rhan o'r trac neu'r pwyntiau sy'n gyfrifol.

Cafodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates wybod am y datblygiad gan gwmni Trenau Arriva Cymru dydd Mercher.

'Effaith economaidd'

Mewn llythyr at ACau dywedodd Mr Skates fod peirianwyr Network Rail wedi bod yn ceisio darganfod y rhan o'r trac neu'r pwyntiau oedd wedi achosi'r broblem.

Dywed ei lythyr fod colli 27 o drenau dosbarth 175 yn "cael effaith sylweddol ar allu Trenau Arriva Cymru i gadw at eu hamserlen".

"Mae gwasanaethau sy'n defnyddio'r trenau 175, rhwng gogledd Cymru a Manceinion a rhwng gogledd a de Cymru, wedi cael eu canslo neu ond yn gallu cwblhau rhan o'r siwrne arferol."

Mae Arriva wedi cynghori y bydd rhai gwasanaethau yn cynnig llai o gerbydau dros dro.

Dywedodd Mr Skates ei fod wedi gofyn i Trenau Arriva Cymru sicrhau fod gwasanaeth fysiau ar gael lle nad yw'n bosib cynnig y gwasanaeth trên arferol.

Ychwanegodd: "Fe fyddaf hefyd yn codi'r mater gydag Adran Drafnidiaeth San Steffan er mwyn cael gwybod sut i hyn ddigwydd, gan gofio nad yw cyfrifoldeb am draciau yn fater sydd wedi ei ddatganoli."

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth, Russell George AC, mae'r newyddion yn ergyd drom i ddefnyddwyr trenau yng Nghymru.

"Fe fydd cyplysu colli'r fflyd yma gyda chyfnod o dywydd oer yn sicr o gael effaith economaidd sylweddol."