'Uchelgais' i greu Caerdydd wrioneddol ddwyieithog
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud ei fod yn gobeithio dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw y brifddinas erbyn 2050, fel rhan o'r ymdrechion i greu "prifddinas wirioneddol ddwyieithog".
A hithau'n Ddydd Gŵyl Dewi, galwodd yr awdurdod ar drigolion, busnesau a mudiadau'r ddinas i ddilyn esiampl Dewi Sant, a "gwneud y pethau bychain".
Mae'r awdurdod yn dweud ei fod yn ymrwymiedig i wneud Caerdydd yn ddinas lle mae'r iaith Gymraeg "yn ffynnu, ac wedi'i gwreiddio ym mywyd y ddinas o ddydd i ddydd".
Y llynedd, cyhoeddodd y ddinas ei strategaeth ddwyieithrwydd gyntaf, oedd yn amlinellu'r cynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cyrmaeg yn y ddinas.
'Cofleidio'r iaith'
Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod 36,735 o bobl oedd yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd ar y pryd - 11% o'r boblogaeth.
Gobaith y Cyngor yw cynyddu'r nifer i 42,584 erbyn 2021, a'i ddyblu i dros 70,000 erbyn 2050.
Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'r Cyngor wedi gwneud camau mawr dros y blynyddoedd diwethaf ar y ffordd i greu prifddinas ddwyieithog.
"Yn amlwg mae'n rhaid i bawb yn y ddinas ddod gyda ni ar y daith hon, ac mae'n wych gweld busnesau a sefydliadau yn y ddinas yn cofleidio'r iaith, ac i weld y llu o gyfleoedd sydd ar gael bellach i bobl ddysgu'r iaith."
"Daw'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i'r brifddinas ym mis Awst eleni," ychwanegodd, "gyda thorfeydd enfawr o siaradwyr Cymraeg, felly bydd manteision amlwg i fusnesau lleol weithredu'n ddwyieithog.
"Rydym yn gwybod bod dysgu iaith newydd yn gallu bod yn ymrwymiad enfawr i rywun, felly gall gwneud rhywbeth bach fel dweud 'bore da' neu 'diolch' wrth gyfaill neu gydweithiwr ein helpu i ddod yn ddinas fwy dwyieithog. Dinas sy'n falch o'r iaith, ac sy'n ei dathlu.
"Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddinas wedi mwy na dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac rydym am sicrhau ein bod yn parhau i hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith fel y gall dyfu ymhellach."
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas ei fod yn ystyried addysg yn ffactor allweddol i uchelgais ddwyieithog y Cyngor, gyda thwf y sector addysg cyfrwng Cymraeg.
'Arwain drwy esiampl'
Ond mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod, fel un o brif gyflogwyr y ddinas, y gall arwain drwy esiampl drwy wneud yr iaith Gymraeg yn hollol greiddiol i'w gweithgareddau.
Mae'n dweud y bydd yn cynnig "mwy o gyfleoedd i'r gweithlu weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau".
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Un o flaenoriaethau ein strategaeth pum mlynedd yw codi nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y Cyngor, ac i alluogi a chefnogi staff sy'n rhugl eu Cymraeg, ynghyd â staff sy'n dysgu, i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
"Rydym am i'r Gymraeg gael ei chlywed ar hyd coridorau'r Cyngor, ac i'r staff fod yn falch ohoni, p'un ai ydyn nhw'n ei siarad ai peidio."