Mam yn rhoi genedigaeth annisgwyl

  • Cyhoeddwyd
Phillip Alan gyda'i rieni Rhiannon Oldham a Gareth Williams a Chelsie Holblrook o'r Gwasanaeth Ambiwlans.Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Phillip Alan gyda'i rieni Rhiannon Oldham a Gareth Williams a Chelsie Holblrook o'r Gwasanaeth Ambiwlans

Fe wnaeth dynes o Dorfaen oedd yn credu ei bod yn dioddef o boen stumog gwael iawn roi genedigaeth i fachgen bach wrth i'w phartner alw 999 am gymorth.

Cafodd y babi Phillip Alan ei eni yn pwyso 4 pwys 13 owns - syndod i'w fam Rhiannon Oldham o Bont-y-pŵl oedd â dim syniad ei bod yn feichiog.

Fe roddodd Ms Oldham, 30 oed, enedigaeth yn y cartre' mae'n ei rannu gyda'i phartner Gareth Williams dridiau ar ôl i'r ddau ddyweddïo ddydd Sant Ffolant.

Dywedodd Mr Williams, 34, sy'n arolygu profion MOT i geir, fod ei bartner wedi diodde' poenau stumog eithriadol y diwrnod cyn rhoi genedigaeth.

Y diwrnod canlynol wrth i'r poenau waethygu fe alwodd y Gwasaneth Ambiwlans.

'Dim syniad'

"Roedd yn rhaid i mi ei chario o'r 'stafell 'molchi i'r gwely, a dyna pryd wnes i sylwi fod rhywbeth rhyfedd yn digwydd.

"Fe wnes i alw 999 a dweud fod rhywbeth difrifol o'i le, ac o fewn munudau roedd Rhiannon wedi rhoi genedigaeth.

"Roedd e'n sioc heb ei ail, oherwydd doedd gennym ddim syniad o gwbl ei bod yn feichiog, ond rydym mor hapus."

Dywedodd Ms Oldham: "Cyn y Nadolig roeddwn yn meddwl fod gennyf ddŵr poeth ac fe wnes i gymryd tabled Rennie a chario 'mlaen.

"Fe wnes i hefyd roi ychydig o bwysau 'mlaen, ond roeddwn yn cymryd mae gorwneud hi oedd hynny dros gyfnod y Nadolig.

"Ma'r wythnosau diwethaf wedi bod yn ddryslyd iawn, un munud rydym yn gwneud trefniadau ar gyfer priodas ond nawr rydym yn gorfod trefnu 'stafell wely i'r crwt."

Fe wnaeth y cwpwl ddiolch i'r gwasanaeth ambiwlans am eu cymorth.

Dywedodd Chelsie Holbrook o ganolfan galwadau yng Nghwmbrân: "Fe wnaeth hi ddod i'r amlwg yn eitha' buan unwaith i Gareth ddweud fod gan Rhiannon lwmp mawr, a chyn hir roedd hi wedi rhoi genedigaeth."