Cynwysyddion llongau i'w haddasu i'r digartref yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Tu allanFfynhonnell y llun, Amazing Grace Spaces
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y cyngor yw gosod pedwar cynhwysydd ar ddarn o dir yn y dref

Mae Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo cynlluniau i addasu cynwysyddion llongau yn gartrefi dros dro i'r digartref.

Y bwriad yw gosod pedwar cynhwysydd llong y tu ôl i loches Tŷ Nos ar Stryd Holt yn y dref.

Bydd y cynwysyddion - sy'n cael eu defnyddio fel arfer i gludo nwyddau ar longau - yn llochesi dros dro i bobl ddigartref ac yn cynnwys ystafell wely ddwbl, cegin, toiled ac ystafell gawod.

Ddydd Llun roedd pwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam yn unfrydol o blaid y cynlluniau.

Ffynhonnell y llun, Amazing Grace Spaces
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynwysyddion yn cael eu haddasu yn ystafell wely, ystafell gawod a chegin

Yn ystod y tywydd oer diweddar mae gwirfoddolwyr yn Wrecsam wedi bod yn rhoi siwmperi a dillad cynnes i bobl ddigartref yn y dref.

Fis Hydref y llynedd cymeradwyodd Cyngor Caerdydd gynllun tebyg ar gyfer wyth uned.