Awdurdodau wedi 'methu' perchnogion cychod Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Marina Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dŵr wedi cael ei droi'n wyn gan filiynnau o ddarnau bach o bolestyrene

Mae dyn o Ynys Môn a gollodd ei gartref pan gafodd cychod eu dinistrio yn harbwr Caergybi wedi cyhuddo'r awdurdodau o fethu a gwneud dim i'w helpu.

Cafodd 80 o gychod eu difrodi ac fe suddodd rhai wrth i Storm Emma daro'r harbwr ddydd Iau.

Yn ôl Dave Parry, a oedd yn byw yno ar ei gwch, fe wnaeth yr awdurdodau eu "gadael" a chynghori eraill i beidio â chlirio'r tanwydd sydd wedi gollwng.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ceisio atal digwyddiadau troseddol ond yn ymchwilio i un adroddiad o ladrad o gwch.

Yn ôl Cyngor Môn, mae'n nhw'n "annog aelodau'r cyhoedd i (g)adael y gwaith glanhau i'r arbenigwyr oherwydd gallai bod malurion a deunydd peryglus yn yr ardal."

Disgrifiad,

Cafodd nifer o gychod eu difrodi yn y storm yr wythnos diwethaf

Dywedodd Mr Parry ei fod wedi ceisio, ond wedi methu, ac achub cychod pobl eraill pan darodd y storm.

"Ro'n i'n cropian ar fy mhengliniau yn ceisio achub cychod pobl eraill cyn i'r staff ymddangos", meddai ar Good Morning Wales.

Disgrifiad o’r llun,

Fe darodd Storm Emma harbwr Caergybi ddydd Iau diwethaf

"Mae lot o ddiesel yna erbyn hyn, mae'n dal i lifo allan o rhai cychod.

"Mae'r gwynt yn mynd i ddod o gyfeiriad y gorllewin unrhyw ddiwrnod hefyd, felly mi fydd y tanwydd yna'n cael ei chwythu allan i'r môr."

Cyhuddodd Cyngor Môn a'r heddlu o wneud dim byd i'w cynorthwyo, gan ddweud nad oedd unrhyw ymdrech i achub y cychod na'u gwarchod nhw.

Mae Mr Parry, sydd wedi byw ar y cwch ers blwyddyn, bellach yn aros gyda ffrindiau.

Ddydd Gwener, roedd Gwylwyr y Glannau yn cynghori pobl i gadw draw o'r marina wrth iddyn nhw asesu maint y difrod.

'Dibynnu ar y marina'

Ar y Post Cyntaf fore Llun, dywedodd Maer Caergybi, Anne Kennedy, y bydd y cyngor tref yn ceisio cynorthwyo'r busnesau cymaint ag y gallen nhw.

Dywedodd: "Mae gynnon ni gyfarfod heno ac mi fydd y marina dan sylw i weld beth fedrwn ni gynnig i directors y marina.

"Cofiwch, nid yn unig y marina sydd wedi ei heffeithio. Mae 'na fusnesau eraill sy'n dibynnu ar y marina, maen nhw'n rhan o'r economi a'r gymuned hefyd."

Dywedodd Alun Roberts, Cadeirydd Fforwm Busnes Caergybi fod y marina'n "adnodd reit bwysig i'r dre'" ac y bydd y storm yn gadael ei hôl am beth amser eto.

"Mae 'na effaith tymor byr yn sicr yn mynd i fod, achos mae pobl sydd wedi cael difrod i'w cychod yn mynd i gymryd rhai misoedd i gael yswiriant i dalu am gael trin y cwch neu gael cwch newydd.

"Ac yn sicr perchnogion y marina, maen nhw'n mynd i gael misoedd, ella blynyddoedd o waith i adfer y marina i fel sut oedd hi."

'Deunydd peryglus'

Mewn datganiad brynhawn Llun, dywedodd Cyngor Môn: "Rydym ar hyn o bryd yn cydweithio gydag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ac asiantaethau partner eraill, gan gynnwys cwmni'r marina a pherchnogion y porthladd, Stena.

"Byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i ddilyn yr arweiniad roddodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau dros y penwythnos sef gadael y gwaith glanhau i'r arbenigwyr oherwydd gallai bod malurion a deunydd peryglus yn yr ardal."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ceisio atal digwyddiadau troseddol ond yn ymchwilio i un adroddiad o ladrad o gwch ar 3 Mawrth.

Dylai unrhyw un sy'n ymwybodol o achosion eraill o ladrata gysylltu ar 101.