Storm yn achosi difrod i gychod mewn harbwr ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae 80 o gychod dan fygythiad yn yr harbwr ar ôl i 18 gael eu difrodi

Mae gwyntoedd cryf wedi achosi difrod i gychod mewn harbwr ar Ynys Môn.

Wrth i Storm Emma daro arfordir y gogledd gyda gwyntoedd hyd at 90 mya, mae Gwylwyr y Glannau yn asesu'r difrod i gychod yn harbwr Caergybi.

Mae difrod wedi ei achosi i o leiaf 18 o gychod, ar ôl iddyn nhw daro'i gilydd neu gael eu chwythu ar y creigiau, ac mae o leiaf 80 o gychod dan fygythiad.

Mae rhybudd melyn newydd ar gyfer glaw sy'n rhewi yn y gogledd orllewin wrth i'r tywydd garw barhau ar draws Cymru.

Roedd yn rhaid i un o gychod y bad achub gael ei symud i fan mwy diogel rhag cael ei difrodi yn yr harbwr.

Mae Gwylwyr y Glannau a Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i bobl gadw draw o'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwylwyr y Glannau a'r heddlu yn cynghori pobl i gadw draw o'r harbwr