Cofio am 'Bencampwr Cydraddoldeb' yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Val Feld
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Val Feld yn 2001

Bydd plac porffor yn cael ei osod ar wal y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth er cof am y cyn-Aelod Cynulliad, Val Feld.

Dyma fydd y cyntaf o gyfres o blaciau porffor i nodi gorchestion menywod nodedig.

Val Feld oedd AC cyntaf Dwyrain Abertawe, a bu'n eiriol dros hawliau cyfartal cyn, ac yn ystod, ei chyfnod yn y Cynulliad.

Bu farw o ganser yn 2001.

Cafodd y plac ei gomisiynu gan Jane Hutt AC a'r cyn-aelod Sue Essex er cof amdani, a bydd yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig gan ddwy ferch Ms Feld, Bronwen McCarthy a Hester Feld.

Ffynhonnell y llun, Julie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr ymgyrch i anrhydeddu Val Feld yn 2017

Cyn y seremoni dywedodd Ms Hutt: "Mae'n briodol bod y plac porffor cyntaf i gofio gorchestion menywod nodedig Cymru yn cofio am Val Feld, oedd yn daer dros ddatganoli, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

"Roedd Val yn rym pwerus i fenywod a grwpiau lleiafrifol, ac mae'n iawn bod ei hygrededd, ymrwymiad a'i hangerdd yn cael cofeb barhaol gyda phlac 'Pencampwr Cydraddoldeb' ar wal y Senedd.

Dywedodd Hester Feld: "Rydym wrth ein bodd bod mam yn cael ei chofio fel hyn.

"Roedd yn gweithio'n galed yn ei bywyd i daflu goleuni ar anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ac mae'n iawn fod y plac yn ddechrau ar ymgyrch i gydnabod gorchestion hanesyddol menywod yng Nghymru."