1,500 o gartrefi yn parhau heb gyflenwad dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae tua 1,500 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb gyflenwadau dŵr fore Mawrth ar ôl i bibellau dorri yn sgil effeithiau'r tywydd garw.
Dywed Dŵr Cymru eu bod yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau yng Ngwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn.
Mae cwsmeriaid mewn ardaloedd eraill fel Merthyr, Aberhonddu, Rhondda, Gwaelod y Garth a Chaerfyrddin hefyd yn parhau heb ddŵr.
Mae rhai sydd wedi eu heffeithio wedi cwyno am yr oedi cyn iddynt dderbyn cyflenwadau o ddŵr mewn poteli.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn blaenoriaethu pobl fregus sydd heb ddŵr, a'u bod wedi agor gorsafoedd cyflenwi mewn rhai ardaloedd.
Maen nhw'n gobeithio y bydd cyflenwadau i bawb wedi eu hadfer erbyn bnawn Mawrth.
Ychwanegodd llefarydd y gallai lliw'r dŵr gael ei effeithio wrth i gyflenwadau gael eu hadfer.
Ddydd Llun, dywedodd cynghorydd ar Ynys Môn, Carwyn Jones, bod y sefyllfa'n "ddifrifol".
"Mae 'na bobl di bod yn ffonio fi fyny, mae 'na un yn disgwyl kidney transplant ac methu cael dŵr. Mae 'na un arall, mae ei babi hi'n sal.
"Un arall wedyn - pump yn byw mewn tŷ, un toilet a dim dŵr ers dydd Gwener. Mae 'na bobl anabl yn ffonio, diabetic.
"Mae'n ddigalon, a does na ddim gobaith iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2018