Diffyg dŵr yn y gogledd yn 'ddifrifol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Ciw dwrFfynhonnell y llun, Vivian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 200 o bobl wedi ciwio am ddŵr ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Llun

Mae cynghorydd ar Ynys Môn wedi dweud bod y diffyg dŵr yn sgil y tywydd oer dros y penwythnos yn "ddifrifol iawn".

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd pobl fregus yn gallu cael dŵr, a bod "dim gobaith" i rai.

Daw wrth i un o drigolion Blaenau Ffestiniog ddweud ei fod wedi ei adael "yn y niwl" ar ôl i bibau dŵr fyrstio.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro, gyda llefarydd yn dweud ei fod yn "hyderus" y bydd cyflenwad dŵr yn cael ei adfer yn ddiweddarach ddydd Llun.

'Diffyg ymateb'

Ar raglen Taro'r Post, dywedodd Mr Jones, cynghorydd dros ward Seiriol, bod "llwythi o boteli 'di mynd allan" ond bod prinder yn parhau.

"Mae'n ddifrifol - mae 'na bobl di bod heb ddŵr ers dydd Gwener," meddai.

"Mae 'na bobl di bod yn ffonio fi fyny, mae 'na un yn disgwyl kidney transplant ac methu cael dŵr. Mae 'na un arall, mae ei babi hi'n sal.

"Un arall wedyn - pump yn byw mewn tŷ, un toliet a dim dŵr ers dydd Gwener. Mae 'na bobl anabl yn ffonio, diabetic.

"Mae'n ddigalon, a does na ddim gobaith iddyn nhw."

Ychwanegodd mai'r pryder mwyaf oedd y "diffyg ymateb".

"Mae'r dŵr 'di dod rŵan ond does 'na ddim ymateb wedi bod tan rŵan," meddai.

"Lle mae'r portaloos, fel ar gyfer y teulu 'ma sydd a phump o bobl, a ddim 'di gallu flushio'r toilet ers pedwar diwrnod? Mae'n fater iechyd yr amgylchedd."

"Mae'n argyfwng - pan ma' pobl ddim di cael drop o ddŵr ers dydd Gwener, pam da chi methu fflyshio'r toliet - mae hynny'n argyfwng."

Ffynhonnell y llun, Nick Elder
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y lori yma'n cyflenwi boteli dŵr i Ffostrasol

Dywedodd Dafydd Roberts o Flaenau Ffestiniog nad yw wedi cael gwybod gan Dŵr Cymru beth sy'n digwydd.

Dyw dŵr ddim wedi bod yn llifo o dapiau cartrefi'r dref ers ddydd Sul ac mae rhai wedi bod yn ciwio am boteli.

Ychwanegodd Mr Roberts bod rhai yn teithio'n bell i brynu dŵr: "Be' sydd wedi bod yn digwydd ydy mae pobl wedi bod yn mynd i'r siop leol i brynu dŵr ac yn fuan iawn, iawn oedd y dŵr wedi mynd p'nawn ddoe."

"I fyny i rŵan does 'na ddim byd wedi cael ei ddweud. Mae pobl yn y niwl braidd."

Ymddiheuriad

Mae Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Dŵr Cymru wedi ymddiehruo, a dywedodd bod y cwmni yn blaenoriaethu pobl oedrannus a rhai ar dialysis, ond eu bod yn rhoi poteli dŵr allan i drigolion hefyd.

"Mae rhagor ar eu ffordd... a hefyd tanceri bach gyda mwy o ddŵr er mwyn i bobl gael llenwi eu bwcedi nhw eu hunain a mynd a nhw gatre 'da nhw."