Heddlu'n arestio wyth cefnogwr pêl-droed Wrecsam a Chaer

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae saith o ddynion a bachgen 14 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o greu ffrwgwd cyn gêm bêl-droed ym mis Tachwedd y llynedd ac mae Heddlu Sir Caer wedi cyhuddo chwech ohonyn nhw.

Daw wedi cyrchoedd gan Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Sir Caer.

Cafodd tri dyn o Gaer (49, 28 a 23 oed), un o Tarporley (18 oed) a dau o Wrecsam (25 ac 20 oed) eu cyhuddo o affräe yn dilyn ffrwgwd yn The Cross ar Stryd Eastgate yng Nghaer oriau cyn y gêm rhwng tîm y ddinas a Wrecsam ar nos Fercher 8 Tachwedd.

Fe gafodd y chwech eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol, ac fe fyddan nhw'n ymddangos gerbron llys ar 13 Ebrill.

Fel rhan o amodau'r mechnïaeth, mae'r dynion wedi'u gwahardd rhag mynd i'r gêm gyfatebol rhwng Wrecsam a Chaer ddydd Sul, 11 Mawrth.

Mae bachgen 14 oed o Wrecsam, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o affräe, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Fe gafodd dyn 33 oed o Wrecsam, oedd hefyd yn un o'r rhai a arestiwyd ar amheuaeth, wedi cael ei rhyddhau'n ddigyhuddiad.

"Mae hyn yn benllanw ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru wnaeth bara pedwar mis", meddai'r ditectif Stuart Needham o Heddlu Sir Caer.

"Roedd nifer o bobl yn dyst i'r ffrwgwd rhwng cefnogwyr Wrecsam a Chaer tua 15:00.

"Yn ffodus nid oedd angen triniaeth feddygol a doedd dim difrod i eiddo, ond mae'r neges yn un glir ni fyddwn yn goddef ymddygiad o'r fath."

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru y byddant yn llacio rhywfaint ar y trefniadau diogelwch ar gyfer y gêm.