Menter gymunedol yn taclo salwch o'r gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl yn absennol o'u gwaith oherwydd salwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, yn ôl un asiantaeth sy'n ceisio taclo'r broblem.
Mae ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 2.6% o'r gweithlu yma wedi colli eu gwaith oherwydd salwch, sy'n uwch na mewn rhannau eraill o'r DU.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae menter gymdeithasol RCS, sydd â swyddfeydd ar draws y gogledd, wedi helpu bron i 400 o bobl yn ôl i'w gwaith - a bron i 1,000 yn rhagor sydd â phroblemau iechyd hirdymor i aros yn eu swyddi.
Mae absenoldeb salwch yn costio tua £500m i economi Cymru pob blwyddyn, a rhyw £1,000 i gwmni os yw aelod o staff yn sâl o'u gwaith am gyfnod hir wrth i'r cyflogwr orfod chwilio am staff yn eu lle, neu rannu llwyth gwaith rhwng cydweithwyr.
Dim gwaith, dim arian
I rai sy'n hunangyflogedig, mae'n golygu bod heb unrhyw arian yn dod mewn os nad ydych chi'n gallu gweithio.
Sefyllfa felly oedd yn wynebu un cwpl o Lanfairpwll ar Ynys Môn yn ddiweddar - mae Ifor a Mari Humphreys yn weithwyr camera ond bu'n rhaid i'r ddau roi'r gorau i'w gwaith am gyfnod oherwydd eu problemau iechyd.
Dywedodd Mr Humphreys: "Ges i ddos go ddrwg o sciatica - oedd o'n boenus ofnadwy ac o'n i'n poeni sut o'n i'n mynd i allu gweithio.
"Fel person camera, mae'n rhaid bod yn hyblyg i symud a chario offer. A finna'n hunangyflogedig, mi golles i waith a doedd 'na ddim arian yn dod mewn.
"Es i weld doctor ac mi ges i dabledi lladd poen. Mi wnaeth o hefyd fy nghyfeirio i at brosiect Cymorth Mewn Gwaith yr RCS - cynnig cwrs o ffisiotherapi ac mae o wedi'n helpu i allu cerdded eto a mynd 'nôl i 'ngwaith."
Ychwanegodd Ms Humphreys: "Digwydd bod yr un amser o'n i 'di cael rhyw boenau mawr lawr fy mreichiau ac yn fy ngwddw, a ffeindio allan bod gen i radiculopathy, ryw nerve wedi trapio yn y gwddw, 'di dod o'r gwaith camera dwi'n ei wneud hefyd.
"Ond diolch byth am wasanaeth Cymorth Mewn Gwaith, mae'r boen mwy neu lai wedi mynd. Digon o ymarferion a buan iawn fydda' i'n ôl fel o'n i'n dechrau gobeithio."
Dywedodd Doris Adlam, sy'n gweithio yn swyddfa RCS ym Mangor: "Da ni'n cyfweld pobl i weld be' ydy'r broblem ac wedyn eu cyfeirio nhw at ffisiotherapydd falla, neu gwnselydd.
"Mwya' mae rhywun yn absennol o'r gwaith, anodda'n byd ydy mynd yn ôl weithiau."
Er mai annwyd neu ffliw sy'n achosi'r absenoldeb mwya' ymhlith gweithwyr, yn ôl Sioned Hughes o RCS, mae 'na ystod eang o broblemau'n cadw pobl o'u swyddi.
"Da ni'n cael lot o bobl efo poen cefn, poen ysgwydd - lot yn gweithio ar laptops rŵan," meddai.
"Hefyd lot o bobl yn diodde' efo iselder oherwydd problemau yn y gweithle neu yn eu bywydau personol a hynny'n effeithio ar eu gwaith nhw."
Effaith Brexit?
Mae prosiect Cymorth Mewn Gwaith yr RCS wedi'i ariannu'n rhannol gan arian Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Maen nhw felly, fel sawl corff arall, yn wynebu dyfodol ansicr unwaith y bydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai Ms Adlam.
"'Da ni ddim yn siŵr be' fydd yn digwydd ar ôl Brexit. 'Da ni'n cael lot fawr o bobl yn dweud faint 'da ni wedi'u helpu nhw.
"'Da ni'n disgwyl rŵan i glywed a fyddwn ni'n gallu cario 'mlaen am y ddwy flynedd nesa' - ac ar ôl hynny, 'da ni ddim yn gwybod."