AC yn galw am ganiatáu cymryd tabledi erthylu gartref
- Cyhoeddwyd
Dylai menywod gael yr hawl i gymryd tabledi erthylu yn eu cartrefi, meddai'r AC Llafur Jenny Rathbone.
Ar hyn o bryd mae'n anghyfreithlon gwneud hynny, sy'n golygu bod yn rhaid i ferched fynd i glinig i gymryd y ddwy dabled.
Mae Ms Rathbone wedi galw ar yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, i ehangu ar y rhestr o leoedd cyfreithiol lle y gall erthyliad ddigwydd, er mwyn cynnwys cartref menyw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "ystyried tystiolaeth" ar wasanaethau mwy effeithiol a diogel.
Cyflwynodd gweinidogion yn yr Alban newid tebyg y llynedd.
Newid y drefn
Mae 77.8% o erthyliadau yng Nghymru yn rhai meddygol yn hytrach na thriniaethau llawfeddygol.
Dim ond o fewn naw wythnos gyntaf beichiogrwydd y mae modd cael erthyliad meddygol, ac mae'n golygu cymryd dau fath gwahanol o feddyginiaeth, gyda 72 awr rhwng y tabledi.
Byddai'r newid yn golygu y byddai menywod yn cael eu meddyginiaeth yn ystod yr ymgynghoriad gyda'r meddyg ac yn cymryd yr ail dabled, Misoprostol yn eu cartrefi.
Byddai hynny'n golygu na fyddai'n rhaid iddyn nhw deithio yn ôl i'r clinig.
Dywedodd Ms Rathbone, AC Canol Caerdydd wrth raglen Wales Live: "Mae angen i ni gael gwasanaethau allan o'n hysbytai lle nad oes angen iddyn nhw fod mewn ysbyty ac yn ôl i'n cymunedau ni."
Croesawu'r alwad mae The British Pregnancy Advisory Service (BPAS) sy'n gyfrifol am bron i draean yr erthyliadau preifat a thrwy'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Maen nhw'n dweud y bydd yn golygu na fydd yn rhaid i fenywod bellach fod ofn gwaedu neu gael poenau ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn y car neu mewn lle cyhoeddus.
'Newid yn help'
Yn ôl Dr Louise Massey, Ymgynghorydd Iechyd Rhyw ac Atgenhedol gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, byddai'r newid yn helpu menywod bregus.
"Dw i'n trin menywod sydd yn fregus iawn, yn aml wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu'n dioddef o salwch iechyd meddwl," meddai.
"I'r menywod hynny, mae teithio ddwywaith mewn 72 awr, yn aml yn gyfrinachol, yn anodd iawn."
Dywedodd Jenny Rathbone bod angen i fwy o wasanaethau fod ar gael yn y gymuned: "Yn yr enghraifft yma, mae'n ymddangos bod hi'n well i bawb pan mae menywod yn gallu rhoi tabledi erthyliad i'w hunain gartref," meddai.
Ond tra'n dweud bod hyn yn syniad da, mae darparwyr erthyliad a phobl broffesiynol sy'n gweithio yn y maes wedi dweud wrth Wales Live bod menywod yn cael trafferth gallu cael mynediad at wasanaethau erthylu yn y lle cyntaf.
Mae Vivienne Rose, sy'n rheolwr triniaethau yng nghlinig BPAS Caerdydd yn dweud bod yr amseru yn gallu bod yn hanfodol.
Mae menywod yn aml yn talu'n breifat er mwyn osgoi amseroedd aros hir meddai.
"Gall amseroedd aros fod rhwng pythefnos a chwe wythnos. Mae'n rhy drawmatig, yn rhy emosiynol. Felly maen nhw'n dod yma yn hytrach nag aros amser cyhyd."
'Siomedig iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn erthyliadau, y Gymdeithas er Gwarchod Plant Heb eu Geni, fod galwad Ms Rathbone yn "siomedig iawn ac yn achos pryder", gan ddweud y byddai cam o'r fath yn "anfoesol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra bo safonau NICE yn cael eu datblygu o ran amseroedd aros, rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod mynediad i ddod â beichiogrwydd i ben mor gyflym, clir a thryloyw â phosib.
"Rydym hefyd yn ystyried tystiolaeth gan glinigrwydd sy'n cynnwys darparu gwasanaethau'n fwy effeithiol a diogel."
Wales Live, 22:30 nos Fercher ar BBC One Wales
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2017