Chwe Gwlad: 10 newid i dîm Cymru i wynebu'r Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi gwneud 10 newid i dîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.
Bydd Taulupe Faletau yn gapten wrth iddo ddychwelyd o'i anaf i chwarae am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni.
Fe fydd y blaenasgellwr James Davies yn ennill ei gap cyntaf a bydd George North hefyd yn dychwelyd i'r 15 fydd yn dechrau'r gêm.
Bydd canolwr y Gweilch, Owen Watkin yn dechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dim ond Liam Williams, Steff Evans, Hadleigh Parkes, Gareth Davies a Cory Hill sy'n cadw eu lle o'r tîm ddechreuodd y gêm ddiwethaf yn Nulun.
Dywedodd Gatland: "Mae hyn yn gyfle gwych i Taulupe, mae'n chwaraewr arbennig a phrofiadol, a bydd hyn yn fudd i'w ddatblygiad ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn dangos ei gryfderau fel arweinydd.
"Rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau, ond rydym yn dod a llawer o safon a phrofiad i'r tîm gyda Bradley Davies, Justin Tipuric, George North a Taulupe."
Tîm Cymru
Liam Williams; George North, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Nicky Smith, Elliot Dee, Tomas Francis, Cory Hill, Bradley Davies, Justin Tipuric, James Davies, Taulupe Faletau (c).
Eilyddion: Ken Owens, Rob Evans, Samson Lee, Seb Davies, Ellis Jenkins, Aled Davies, Rhys Patchell, Leigh Halfpenny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018