Goroesi canser y brostad: 'Dwi ymhlith y rhai lwcus...'
- Cyhoeddwyd

Mae canser y brostad wedi bod yn y newyddion gryn dipyn yn ddiweddar, gyda Stephen Fry a Bill Turnbull wedi cyhoeddi eu bod yn derbyn triniaeth.
Hwn yw'r canser sydd bellach yn fwyaf cyffredin ymhlith y boblogaeth a bydd un ym mhob pedwar o ddynion yn cael diagnosis yn ystod eu hoes.
Un a gafodd ddiagnosis yn ddiweddar yw Siôn Brynach, prif weithredwr yr elusen ddosbarthu grantiau, Hanfod Cymru. Yma mae'n adrodd hanes ei brofiad ef o'r clefyd.

Dwi ymhlith y rhai lwcus - dwi yma o hyd, ac yn ôl yn iach, er gwaethaf y diagnosis diweddar o ganser y brostad.
Mae'n siŵr mai rhyw flwyddyn nôl y cychwynnodd pethau - poen yn fy nhwll tin a phoen a thrafferth wrth basio dŵr - a hynny'n arwain wedyn at ymweliad â'r meddyg teulu.
Prostatitis oedd y diagnosis a chwrs o dabledi gwrthfiotig oedd yr ateb.
Mis Ebrill daeth y boen yn ôl ac fe es i at y meddyg teulu eto. Roedd y meddyg yn amlwg yn amau bod 'na rhywbeth o'i le achos fe ges i archwiliad mwy trylwyr bryd hynny.
Dyw archwiliad o'r brostad ddim yn hwyl - bys i fyny'r twll tin - ond weithiau mae rhaid!
Wnaeth pethau ddim gwella felly es i'n ôl at y meddyg teulu a chael fy nghyfeirio at adran iwroleg Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd.
Ym mis Medi y gwelais i'r iwrolegydd. Bys i fyny'r twll tin unwaith eto a phrawf PSA arall. Fel y dywedodd yr arbenigwr wrthyf bryd hynny, mae archwilio'r brostad yn wyddor amhenodol, ond roedd hi'n ddigon amheus - chwarae teg iddi - i'm hanfon am sgan MRI.
A hwnnw a ddadlennodd bethau go iawn.

Cyhoeddodd y cyflwynydd Bill Turnbull yr wythnos hon fod ei ganser wedi lledaenu
Dwi'n dal i gofio eistedd yn y swyddfa wythnos ar ôl y sgan a'r ffôn yn canu ac un o nyrsys arbenigol yr adran iwroleg yn dweud: "Yn bendant 'ma 'na rhywbeth yn dy brostad di, felly 'dan ni angen i ti gael biopsi."
Dyw cael biopsi ddim yn lot o hwyl chwaith, ond dyw e ddim yn beth mawr.
Wythnos wedyn, ar ddiwedd eithaf mis Tachwedd, daeth canlyniad y biopsi, a'r fellten - "mae gen ti ganser y brostad".
Fy ymateb i oedd mynd i siarad â ffrindiau i mi a oedd wedi bod trwy'r profiad o'm blaen neu ffrindiau eraill a oedd yn feddygon eu hunain.
Rhan o'r dilema yw gwybod sut i ymateb, gan fod canser y brostad yn rhywbeth sy'n medru datblygu a thyfu yn araf iawn.
Mae llawer o ddynion hŷn yn dewis gwneud dim y tu hwnt i gadw llygad ar y sefyllfa, ond gyda phedwar o blant rhwng wyth ac 17 mlwydd oed, roeddwn i'n awyddus i wneud rhywbeth am y peth.
Ar 2 Rhagfyr felly, pan euthum i gadw oed gyda'r llawfeddyg iwrolegol, roedd y sgwrs yn gymharol syml, os ingol.
Oherwydd lleoliad y tiwmor ger top fy mhrostad, doedd llawer o'r triniaethau ddim yn bosib, a'r unig opsiwn felly o wneud rhywbeth oedd llawdriniaeth i dynnu'r brostad.
Erbyn i fi adael swyddfa'r iwrolegydd felly roedd y penderfyniad wedi ei wneud a'r dyddiad wedi ei bennu - 10 Ionawr.
Cefais driniaeth lawfeddygol a ddefnyddiai'r robot Da Vinci - sef robot â 5 braich denau.

Peiriant fel hyn - y robot Da Vinci - wnaeth weithio ar Siôn
Mae llawer o fanteision i'r sustem hon, nid lleiaf medru gadael yr ysbyty y diwrnod canlynol a medru arbed y nerfau o gwmpas y brostad adeg ei dynnu - gyda'r manteision o ran medru parhau i gael rhyw, a rheoli llif y dŵr ymhlith y rhai amlycaf
Bythefnos wedyn roeddwn wedi cael tynnu'r pwythau a'r cathetr a thair wythnos ar ôl hynny roeddwn yn ôl yn y gwaith.
Wythnos diwethaf - llai 'na saith wythnos wedi'r driniaeth - bûm yn gweld y llawfeddyg a chael y newyddion gwych - "roedd gen ti ganser y brostad - dyna'r neges i ti fynd adref gyda thi heddiw. Ymlaen â thi â gweddill dy fywyd".
Rwy'n ôl yn holliach ac yn medru gwneud pob peth y medrwn cynt (ac eithrio 'bungy jump' o bosib).
Ond maen nhw'n dweud mai ysgol ddrud yw ysgol brofiad felly rwy'n gobeithio mod i hefyd yn ddoethach.
Beth ddysgais i felly dros y misoedd diwethaf?
Peidio anwybyddu symptomau - os wyt ti mewn UNRHYW boen yn dy dwll tin neu dy bidlen dos at y meddyg a choda'r posibilrwydd o ganser y brostad;
Hola am archwiliad - OK, dyw hi ddim yn lot o hwyl cael bys i fyny'r twll tin, ond gwell dau funud o embaras nac arch;
Paid â gohirio'r ymweliad at y meddyg - mae yna wastad rhywbeth gwell i'w wneud nac ymweld â'r feddygfa, ond fel y mae stori Bill Turnbull, druan, yr wythnos hon yn ei ddangos, gorau po gyntaf i ti gael diagnosis a thriniaeth os wyt ti i osgoi mwy o drafferth yn nes ymlaen;
Rwyt ti yn medru rheoli dy biso ar ôl triniaeth brostad, a dyw dy fywyd rhywiol di ddim ar ben - dyna'r sefyllfa i'r rhan fwyaf o ddynion sy'n cael triniaeth o'r math hwn;
Pwysigrwydd gwrando a dilyn cyngor y staff meddygol;
Mae yna fywyd gyda chanser, ond mae'n werth gwerthfawrogi a diolch am bob dydd - pa un ai oes gen ti ganser ai peidio. Mae hynny'n arbennig o wir am dy deulu a dy ffrindiau. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn yn yr holl gefnogaeth yr ydw i wedi ei gael oddi fy ngwraig, y plant, y teulu estynedig a'm ffrindiau oll. Mae hiwmor yn bwysig iawn hefyd - rwy'n chwerthin bob tro wrth feddwl am ambell e-bost oddi wrth ffrind!;
Mae datblygiadau meddygol yn dod i'r amlwg yn gyson a phob achos yn wahanol felly os gei di ddiagnosis, trafoda'r holl bosibiliadau sydd ar gael i ti;
Er yr holl gwynion sy'n ymddangos yn y wasg, mae'r Gwasanaeth Iechyd yn WYCH - diolch byth amdano a'r holl staff sy'n gweithio o'i fewn. Mae'n haeddu i ni frwydro drosto, i'w gadw wedi ei ariannu o drethiant cyffredinol.