Honiad o fwlio yn erbyn y cyn-weinidog Leighton Andrews

  • Cyhoeddwyd
leighton andrews

Mae'r dyn wnaeth honni fod 'na "awyrgylch wenwynig" o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl, ei hun wedi cael ei gyhuddo o ddefnyddio "agwedd ymosodol" a "bytheirio bygythiol".

Dywedodd Leighton Andrews, y cyn-weinidog cabinet fod 'na "elfen o fwlio, chwarae gemau meddyliol, ffafriaeth, trin pobl yn wahanol a thanseilio personol bwriadol ar adegau" o fewn Llywodraeth Cymru rhwng 2011-2016.

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr o gŵyn gafodd ei ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones ym Mai 2013. Llythyr oedd yn codi pryderon am ymddygiad Leighton Andrews yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Addysg.

Wrth ymateb i'r cyhuddiadau dywedodd Mr Andrews fod yna "ymgyrch bwrpasol" i'w danseilio.

'Ymosodiad personol a fitriolig'

Mae'r llythyr yn sôn am gyfarfod gyda phenaethiaid addysg i drafod dyfodol y corff arholiadau, CBAC.

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd David Lewis, oedd yn gadeirydd dros dro ar CBAC ar y pryd, fod Leighton Andrews wedi dechrau ar "ymosodiad personol a fitriolig ar Brif Weithredwr CBAC Gareth Pierce. Roedd e yn gywilyddus oherwydd y natur bersonol".

Ychwanegodd Mr Lewis: "Fe danseiliodd y prif weithredwr o flaen ei staff a'i gyfarwyddwyr.

"Pan orffennodd siarad dywedais nad oedd llawer o siawns o bartneriaeth rhyngom ni yn y dyfodol os oedd e yn parhau â'r agwedd yna... Roedd yn warthus a distrywiol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Lewis fod y cyn-weinidog "wedi ymosod yn bersonol a fitriolig ar Brif Weithredwr CBAC"

Fe ysgrifennodd Mr Lewis, oedd yn gynghorydd Llafur ac oedd â chyfrifoldeb dros addysg ar gabinet cyngor Castell-nedd Port Talbot, fod cyfarwyddwyr CBAC wedi ymateb i'r hyn ddywedodd y Gweinidog.

Fe aeth ymlaen i ddweud: "Fe ymatebodd y Gweinidog gyda llith hyd yn oed yn fwy bygythiol. Ar ddau achlysur, roedd rhaid i mi ofyn iddo ddefnyddio iaith oedd yn fwy priodol.

"Fe barodd y 'drafodaeth' lai na thri chwarter awr o'r awr oedd wedi ei bennu.

"Roedd ymddygiad LA (Leighton Andrews) yn warthus, nid yr hyn sy'n ddisgwyliedig gan weinidog llywodraeth.

"Ar ôl y cyfarfod, fe ddefnyddiwyd y geiriau 'bwli' a 'llabwst' gan y cyfarwyddwyr oedd yno."

Fe ddaeth i'r amlwg hefyd fod swyddog o fewn Llywodraeth Cymru wedi codi pryder am ymddygiad Leighton Andrews yn ystod cyfarfod gyda swyddogion yn Nhachwedd 2014.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn dweud: "Cafodd y cyfarfod ei gynnal i drafod newidiadau i Fesur. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Llywodraethiant drafod y mater yn anffurfiol gyda Mr Andrews.

Ni chymerwyd unrhyw gamau swyddogol yn dilyn hynny. Ni chodwyd y mater gyda'r Prif Weinidog, fe gafodd wybod am hyn ym mis Ionawr 2018."

'Ymgyrch bwrpasol i danseilio'

Wrth ymateb i'r cyhuddiadau dywedodd Leighton Andrews: "Mae yna ymgyrch bwrpasol i fy nhanseilio i ac eraill sydd wedi bod yn cefnogi Carl Sargeant.

"Mae'n faleisus iawn ac yn fwy o brawf o'r diwylliant o fwlio gan rai o fewn Llywodraeth Cymru a'i ffrindiau ar y tu allan.

"Roedd Carl a gweinidogion, rhai sy'n dal yn y Llywodraeth, yn dystion i'r ymddygiad yma. Fe rybuddiais i bythefnos yn ôl fod ymosodiadau yn fy erbyn yn cael eu paratoi.

"Mae 'na ymdrech yn cael ei wneud i geisio tanseilio fy hygrededd. Mae pobl wedi dweud wrtha'i fod y person sy'n gwneud hyn â chysylltiadau agos gyda Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Mae ail edrych ar gŵyn y Cynghorydd Lewis o bum mlynedd yn ôl yn chwerthinllyd. Fe wnes i ymateb i'w honiadau mewn cyfweliad teledu yn Awst 2013 sydd yn dal ar gael i'w weld ar wefan y BBC.

"Dwi'n flin os yw'r Cynghorydd Lewis yn dal yn chwerw fod llywodraethiant CBAC wedi ei ail-strwythuro gan arweinwyr Cynghorau Cymru, a bod Cadeirydd newydd wedi ei benodi. Dwi'n sôn am gefndir hyn yn llawn yn fy nghyfrol 'Ministering to Education' ar dudalennau 182-184.

"Dwi'n gwrthod yr hyn y mae'r Cynghorydd Lewis yn ei ddweud ac yn parhau yn gefnogol i'r camau wnaeth ddilyn wrth greu Cymwysterau Cymru.

"O ran y cais rhyddid gwybodaeth, does gen i ddim mwy i'w ychwanegu at be mae Llywodraeth Cymru wedi ei nodi."