Brexit: Llywodraeth y DU am ddiwygio'r Mesur Gadael

  • Cyhoeddwyd
Delwedd baner cymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth y DU i fwrw 'mlaen â'r bwriad i gynnig newidiadau i Fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd - newidiadau maen nhw'n dweud fydd yn datrys y ffrae am bwerau fydd yn dod yn ôl o Frwsel yn sgil Brexit.

Daw'r penderfyniad ar ôl cyfarfod o'r Cyd Bwyllgor Gweinidogol yn Llundain ddydd Iau.

Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi beirniadu'r Mesur Gadael, gan honni y byddai yn cymryd pwerau yn ôl o'r gwledydd datganoledig.

Dywedodd David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet San Steffan, fod yn rhaid iddyn nhw fwrw 'mlaen gyda'u cynigion er mwyn iddynt allu rhoi digon o amser i'r Senedd yn Llundain drafod y mesur.

Dywedodd Mr Lidington ei fod yn dal yn obeithiol y gallai ddod i gyfaddawd gyda'r llywodraethau datganoledig cyn bod pleidlais derfynol ar y mesur.

"Rwyf o'r farn fod y cynnig yn parchu ac yn cryfhau setliad datganoli ar draws y DU, ond fe fydd hefyd yn caniatáu i Lywodraeth San Steffan amddiffyn y farchnad gyffredin sy'n bodoli yn y DU," meddai.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhai atebion ymarferol er mwyn datrys y problemau.

"Fe wnaeth Llywodraeth y DU gytuno i fynd o'r cyfarfod a meddwl ymhellach am ein syniadau, ac rwy'n credu fod hynny yn dangos ein bod wedi cymryd cam ymlaen," meddai.

Mae Llywodraethau Cymru a'r Alban yn dweud fod y mesur yn ei ffurf bresennol yn fodd o gymryd grymoedd yn ôl oddi arnyn nhw, ac yn tanseilio datganoli.

Yn ôl y cynlluniau, byddai pwerau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, fel amaeth, yn dychwelyd o Frwsel i San Steffan yn hytrach na Chaerdydd, Caeredin a Belffast.

Yn achos Cymru, byddai hyn yn effeithio ar 64 o bwerau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Theresa May a Carwyn Jones gwrdd yr wythnos nesaf

Ddydd Mawrth fe bleidleisiodd ACau yng Nghaerdydd i symud ymlaen ar fyrder gyda deddfwriaeth fyddai'n ceisio gwarchod eu pwerau pe na bai cyfaddawd.

Fe fyddai'r mesur dan sylw yn trosglwyddo pwerau o'r Undeb Ewropeaidd i Fae Caerdydd.

Mae disgwyl i Theresa May gwrdd â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones, a Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon yn Downing Street ddydd Mercher nesaf i drafod y sefyllfa ymhellach.