Y gantores o Fôn fu'n rhif 1 yn Singapore

  • Cyhoeddwyd
eve
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evelyn Bridger wedi bod yn canu ar lwyfannau ers dros 60 mlynedd

Mae hi'n daith bell o ben draw Sir Fôn i'r tir mawr, ond mae hi'n daith bellach o lawer i ben draw'r byd.

'Chydig a wyddai Evelyn Owen pan roedd hi'n ferch fach saith oed yn cystadlu mewn 'steddfodau efo Côr Cemaes y byddai hi'n cyrraedd brig y siartiau pop yn Singapore ac yn perfformio'n gyson gyda rhai o enwau mawr y byd adloniant.

Bydd hi'n rhannu rhai o'r atgofion rheiny ar raglen Lle Aeth Pawb? Merched Pop 65-75 ar S4C, 17 Mawrth.

"Nes i ddechra' canu tra ro'n i'n 'rysgol," eglurodd Evelyn, sydd erbyn hyn yn byw yn Norwich.

"Ro'n i yn y côr ac mi roeddan ni'n teithio lot i gynnal cyngherddau. Naethon ni berfformio yn yr Albert Hall ac yn y Festival Hall yn Llundain.

"Ro'n i'n 'chydig o extrovert ac wrth fy modd ar y llwyfan. Ro'n i'n ennill gwobrau yn aml mewn 'steddfodau.

"'Swn i wedi lecio mynd i theatre school ar ôl gadael ysgol. Ond yn y dyddiau yna ar ddechrau'r 60au doedd 'na ddim llawer ohonyn nhw, dim ond yn Llundain, a bydda Dad a Mam ddim wedi medru fforddio fy anfon i yno."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddatblygodd gyrfa Evelyn ynghanol chwyldro cerddorol y 60au

Ar ôl ennill cymwysterau teipio a llaw fer cafodd Evelyn swydd efo bwrdd trydan y CEGB yn atomfa niwclear Wylfa, dafliad carreg o'i chartref.

"Ro'n i'n dal i ganu ac yn y cyfnod yma 'nes i gyfarfod y gŵr, Rod, oedd yn gweithio i'r RAF yn y Fali. Nes i ddechra' canu efo grŵp yn fanno.

"Roeddan ni in demand i gynnal nosweithia' mewn neuaddau pentre' ar hyd a lled y gogledd. Dwi'n cofio naethon ni ennill cystadleuaeth dalent bapur newydd The People yn Lerpwl."

The Whirlwinds oedd enw'r grŵp, enw addas o ystyried beth fyddai'n digwydd nesa' ym mywyd y gantores ifanc o Fôn.

Hiraeth am Sir Fôn

Yn 1966, 'chydig amser ar ôl priodi, fe symudodd Evelyn i Singapore gan fod y llu awyr wedi anfon ei gŵr yno i weithio am dair blynedd.

"Chydig iawn ro'n i wedi bod y tu hwnt i Gymru ac ar y dechra' roedd gen i hiraeth mawr am Sir Fôn.

"Ond be' oedd yn dda am Singapore oedd bod 'na lot o hotels newydd yn agor ar gyfer pobl fusnes o'r gorllewin. Roedd gan bob hotel fand ac yn chwilio am gantorion oedd yn gallu canu caneuon poblogaidd," eglurodd Evelyn.

"Ro'n i'n canu bron bob nos. Roedd 'na bobl yn sôn amdana i ac yn fuan iawn ges i exposure ar sioeau teledu ac ar y radio. Ges i wahoddiad i fynd i stiwdio i recordio cân, And So It's Goodbye.

"Aeth y gân i rif un yn y siartiau. Ro'n i wedi gwirioni.

"Roedd o'n deimlad neis a braf a ro'n i am 'neud y gora' o'r sylw gan mai dim ond am gyfnod byr ro'n i yno.

"Roedd y bobl leol hefyd wrth eu boddau pan ro'n i'n canu ambell i gân yn y Gymraeg. Dim ond yn eu hieithoedd brodorol fel Mandalay roedden nhw yn tueddu i ganu oherwydd bod y llywodraeth yn ceisio gwarchod pobl ifanc yr ynys rhag dylanwad y gorllewin.

"Roedden nhw'n gwerthfawrogi fy mod i wedi gwneud ymdrech i ddysgu canu mewn Mandalay hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Eve ddim ymhell o'r penawdau ac roedd hi'n perfformio gyda rhai o'r sêr mawr

Ar ddiwedd y 60au symudodd Rod ac Evelyn Bridger yn ôl i'r DU a setlo'n ardal Caer.

"Roedd Rod yn gweithio yn RAF Sealand a ro'n i wedi bod i ffwrdd ac wedi newid fy nghyfenw felly doedd pobl yn y byd cerddorol ddim yn gw'bod pwy o'n i felly roedd yn rhaid i fi ddechra' o'r dechra'."

Penblwydd Hapus a Gene Pitney

"Ro'n i'n ffodus bod cwmni recordiau Cambrian wedi cysylltu efo fi yn fy ngwahodd i recordio cân ar y label. Roedd gen i gân wedi ei rhoi i mi yn Singapore ac aeth fy nghyfnither ati i'w chyfieithu a dyna sut y daeth Penblwydd Hapus i fodolaeth.

"Roedd hi'n cael ei chwarae lot ar y pryd. Roedd y teitl yn help gan fod 'na lot o bobl yn gofyn am ei chwarae hi i ddymuno'n dda i'w hanwyliaid!"

Ers hynny mae Evelyn, neu Eve Bridger fel y mae hi yn cael ei 'nabod ar y llwyfan, wedi bod yn gweithio bron yn ddi-dor yn canu mewn clybiau ac ar longau pleser ar draws y byd gan gadw cwmni i rai o enwau mawr y byd adloniant ar y ffordd.

"Dwi wedi gweithio efo comedians fel Bob Monkhouse, Les Dawson a Dave Allen a Cannon and Ball pan oeddan nhw yn cael eu 'nabod fel yr Harper Brothers.

"Yn y 90au mi fues i'n supportio Gene Pitney pan oedd o'n dod drosodd o America."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eve yn dal i berfformio ar lwyfannau ger ei chartref yn nwyrain Lloegr

Mae Eve bellach yn 73 oed. Er bod teithio'r byd wedi dod i ben rhyw bedair blynedd yn ôl mae hi'n dal i ganu'n rheolaidd mewn cabarets a nosweithiau elusennol yn Norfolk.

"Nes i roi'r gora' i deithio. Ro'n i wedi cael llond bol o ddisgwyl mewn meysydd awyr ar fy mhen fy hun.

"Cafodd Rod ei daro'n wael gyda chanser hefyd ddwy flynedd yn ôl felly roedd yn rhaid i fi arafu. Mae o wedi gwella'n raddol erbyn hyn a dwi'n dal i berfformio.

"Dwi wedi canu yn ddiweddar yn Great Yarmouth efo Duncan Norvelle, comedian poblogaidd o'r 80au.

"Tra bydd y llais yn dal gen i mi fyddai yn dal i ganu. Dwi wrth fy modd."

Lle Aeth Pawb? Merched Pop 65-75, S4C, 17 Mawrth, 20:00