Cyflymu'r broses o wirio gwirfoddolwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth digidol newydd yn cael ei gyflwyno er mwyn cyflymu'r broses o wirio cefndir troseddol gwirfoddolwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar hyn o bryd, mae'r broses o wneud cais i edrych ar hanes troseddol rhywun drwy gyfrwng Saesneg yn llawer cynt na drwy'r Gymraeg.
Y gobaith ydi y bydd y drefn ddigidol newydd yn prosesu ceisiadau Cymraeg mewn 48 awr.
Yn ôl Cymdeithas Chwaraeon Cymru, mae cynydd wedi bod yn nifer y ceisiadau drwy'r Gymraeg.
Proses hir
Mae dros 3,000 o geisiadau am wirio cefndir troseddol rhywun yn cael eu gwneud ar bapur yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
Fel arfer rhaid aros tua chwech wythnos fel arfer i'w cael yn ôl, ond ar adegau mae'n gallu cymryd hyd at chwe mis.
Dywedodd Kate Evans o Gymdeithas Chwaraeon Cymru: "Mae'r Urdd wedi bod yn defnyddio system, a hyd yn hyn mae pump deg o wiriadau wedi cael eu gwneud gyda ni.
"Ry ni moyn gwneud yn siwr bod gwirfoddolwyr a hyfforddwyr led-led Cymru yn ymwybodol o'r system yma."