Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Caer

  • Cyhoeddwyd
Y Cae Ras, WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm, ar ôl iddyn nhw guro Caer ar y Cae Ras.

Daeth goliau Scott Quigley a Nicky Deverdics yn yr ail hanner gan sicrhau tri phwynt gwerthfawr i'r tîm cartref.

Dyma ydy'r tro cyntaf ers 1976 i'r Dreigiau guro Caer ddwywaith yn yr un tymor.

Mae Wrecsam felly yn codi i'r pedwerydd safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Roedd y chwaraewyr yn gwisgo bandiau du a chafwyd munud o dawelwch i gofio am y cyn-chwaraewr Kieron Durkan a fu farw yn ystod yr wythnos.

Naw munud wedi dechrau'r gêm roedd 'na gymeradwyaeth am funud gan y dorf - sef yr union amser y sgoriodd Durkan i Wrecsam yn erbyn Manchester United yng Nghwpan yr FA yn 1995.