Caerdydd am wneud cais i ddenu canolfan Channel 4

  • Cyhoeddwyd
Channel 4Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Channel 4 am symud 300 o staff i dair canolfan y tu allan i Lundain

Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud cais swyddogol i fod yn gartref i ran o fusnes Channel 4 pan fydd yn ymestyn o Lundain.

Mae llythyr gan arweinydd y cyngor i brif weithredwr y darlledwr yn cadarnhau y bydd yn gwneud cais i sicrhau un o dri chanolfan gynhyrchu.

Mae Channel 4 wedi cyhoeddi cynlluniau i symud 300 o staff a chreu tair canolfan y tu allan i Lundain.

Fe fyddan nhw hefyd yn cynyddu eu gwariant ar raglenni sy'n cael ei wneud y tu allan i'r ddinas.

'Cartref delfrydol'

Yn y llythyr, mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas yn dweud y byddai Caerdydd "wrth ein bodd" yn dangos beth all y ddinas ei gynnig.

"Does gen i ddim amheuon am gymryd y cyfle yma i gadarnhau ein bwriad i wneud cais i sicrhau un o'r canolfannau creadigol newydd," meddai Mr Thomas yn ei lythyr at brif weithredwr y darlledwr, Alex Mahon.

Mae'n rhestru rhinweddau fel sector diwydiannau creadigol sy'n ffynnu, prisiau rhent isel a phoblogaeth sy'n cynyddu.

Wrth ymateb i ymgynghoriad ar ddyfodol Channel 4 yn haf 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth weinidogion yn San Steffan y byddai Caerdydd a'r cyffiniau yn gartref newydd "delfrydol" ar ei gyfer.

Bydd y darlledwr yn dechrau gwahodd dinasoedd i fynegi diddordeb yn y canolfannau newydd o fis Ebrill, gyda disgwyl penderfyniad ar eu lleoliad erbyn mis Medi.