Ffilm merched Ysgol Dyffryn Nantlle yn ennill gwobr
- Cyhoeddwyd
Mae criw o ferched ysgol o Wynedd wedi cipio gwobr mewn gŵyl ffilmiau yn Llundain ddydd Mawrth.
Roedd ffilm 'Swyn' gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, wedi cyrraedd rhestr fer o dair yn seremoni Gwobrau Into Film ar gyfer y categori 12 oed ac iau.
Cafodd y ffilm ei chreu gan 11 merch - Becca, Begw, Betsan, Betsan, Danielle, Elan, Elsi, Gwenno, Llinos, Manon a Megan - dros wyliau hanner tymor yr Hydref, fel rhan o weithdai ffilm Dyffryn Nantlle 2020.
Llwyddodd y ffilm i guro cannoedd o ffilmiau eraill er mwyn ennill y wobr.
Hefyd yn fuddugol yn y gwobrau oedd Coleg Sir Gâr yn Llanelli, wnaeth ennill gwobr clwb y flwyddyn.
'Haeddu pob clod'
"Rydym yn ffodus iawn i gael mentor arbennig i'r grwpiau - Eilir Pierce, y gwneuthurwr ffilm," meddai Ben Gregory o Benygroes, un o'r trefnwyr.
"Ond yn y diwedd, y bobl ifanc sy'n ysgrifennu, saethu ac actio, ac maent yn haeddu pob clod am gynhyrchu ffilmiau gwreiddiol o safon uchel."
Roedd y ffilm eisoes wedi ennill y wobr Addewid yng Ngŵyl Ffilm PICS yng Nghaernarfon fis diwethaf.
Roedd y seremoni yn Llundain yn cael ei chynnal yn BFI Southbank.
Elusen Addysg Ffilm yw Into Film, ac mae'n gweithio gyda channoedd o ysgolion a grwpiau cymunedol pob blwyddyn.