Gwersi mewn theatr i blant Ardudwy wedi difrod storm
- Cyhoeddwyd

Sefydlogi'r to fydd y flaenoriaeth i ddechrau ar safle Ysgol Ardudwy, meddai Cyngor Gwynedd
Bydd rhai o ddisgyblion Ysgol Ardudwy yn Harlech yn cael eu gwersi mewn theatr ar ôl i storm ddifrodi'r ysgol.
Cafodd to'r ysgol ei difrodi gan Storm Emma, a bydd y safle ynghau tan wyliau'r Pasg wrth i waith atgyweirio ddigwydd.
O ddydd Mercher ymlaen, bydd disgyblion blwyddyn 9 yn cael eu gwersi yn Theatr y Ddraig, Y Bermo.
Bydd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 yn cael eu gwersi yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog bob yn ail ddydd, gyda gwaith yn cael ei osod ar gyfer y diwrnodau eraill.
Bydd blwyddyn 7 yn dechrau ddydd Mercher a blwyddyn 8 ddydd Iau.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018