Cau ysgol yng Ngwynedd tan ar ôl y Pasg wedi difrod storm
- Cyhoeddwyd

Bydd ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn parhau ar gau tan ar ôl y gwyliau Pasg wedi difrod yn sgil storm.
To Ysgol Ardudwy yn Harlech gafodd ei effeithio, a hynny wedi Storm Emma wythnos diwethaf.
Mae gwaith bellach wedi dechrau i drwsio'r to ac i wneud y safle yn saff.
Bydd disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 yn cael eu hadleoli i'r hen lyfrgell a'r clwb ieuenctid yn Harlech, a Choleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau, ar gyfer y pythefnos nesaf.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod "asesiadau manwl" wedi cadarnhau nad yw'r safle'n ddiogel a bod angen gwneud "gwaith sylweddol" nes y bydd modd agor yr ysgol eto.

Sefydlogi'r to fydd y flaenoriaeth i ddechrau, meddai Cyngor Gwynedd

Mae'r ysgol wedi dweud eu bod yn cydweithio gyda'r cyngor er mwyn rhoi trefniadau eraill yn eu lle ar gyfer y disgyblion
"Y nod cyntaf fydd sefydlogi'r to er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, ailagor yr adeilad, ac ail-roi'r to ar bob darn yn ei dro."
Dywedodd yr awdurdod hefyd eu bod yn gwneud trefniadau gyda'r ysgol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7-9.
"Yn dilyn y difrod a wnaed i do'r ysgol yr wythnos diwethaf mae gwaith brys wedi ei gynnal dros y diwrnodau diwethaf i sicrhau parhad addysg ein disgyblion," meddai Ysgol Ardudwy mewn datganiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2018