AS o Gymru'n galw am atal trwydded sianel deledu o Rwsia

  • Cyhoeddwyd
Stephen Doughty AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Doughty AS yn galw ar y rheoleiddiwr darlledu, OfCom i adolygu trwydded ddarlledu sianel RT

Mae AS o Gymru wedi galw ar gydweithwyr i foicotio sianel newyddion o Rwsia, ac i drwydded y sianel gael ei hatal, yn dilyn digwyddiad yng Nghaersallog.

Fe gafodd cyn-weithiwr cudd o Rwsia, Sergei Skripal a'i ferch, Yulia eu darganfod yn anymwybodol yng Nghaersallog ar 4 Mawrth.

Daeth i'r amlwg eu bod wedi cael eu gwenwyno gan sylwedd sy'n effeithio ar y system nerfol, ac maen nhw'n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Yn San Steffan ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog Theresa May ei bod hi'n debygol iawn mai Rwsia oedd y tu ôl i'r digwyddiad.

'Propaganda'

Bellach mae AS Llafur dros Dde Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty yn galw ar gydweithwyr i foicotio sianel newyddion RT, oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Russia Today.

Fe wnaeth Mr Doughty alw ar Dŷ'r Cyffredin i atal y sianel deledu o rwydwaith ddarlledu San Steffan.

Mae hefyd yn galw ar y rheoleiddiwr OfCom i adolygu trwydded y sianel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion arbenigol wedi bod yn archwilio'r safle yng Nghaersallog

Dywedodd Mr Doughty mewn datganiad i Dŷ'r Cyffredin fod y sianel deledu yn cael ei defnyddio fel "propaganda ar gyfer llywodraeth Rwsia".

"Rwy'n galw ar Russia Today i gael ei symud oddi ar y system ddarlledu fewnol, ac rwy'n galw ar ASau i beidio â chyfrannu i gyfweliadau ar Russia Today," meddai.

'Gofalus'

Dywedodd Theresa May: "Dwi'n credu y dyle ni fod yn wyliadwrus a gofalus wrth edrych ar ba blatfformau o'r cyfyngau mae aelodau o'r Tŷ hwn yn penderfynu ymddangos arno.

"Fel i mi ddweud, mae Russia Today yn amlwg yn un sy'n destun pryder," meddai.

Mae llefarydd ar ran OfCom wedi ymateb drwy ddweud: "Rydym wedi clywed datganiad y Prif Weinidog ac rydym yn disgwyl datganiad pellach ddydd Mercher.

"Yna fe fyddwn yn ystyried goblygiadau trwydded ddarlledu RT."