Rheolwr Gyfarwyddwr newydd i Barc Gwyddoniaeth M-SParc
- Cyhoeddwyd
Mae Parc Gwyddoniaeth gyntaf Cymru, M-SParc ger y Gaerwen ar Ynys Môn wedi cyhoeddi Rheolwr Gyfarwyddwr newydd.
Bydd Pryderi ap Rhisiart yn olynu Ieuan Wyn Jones pan fydd yn ymddeol ym mis Mai.
Mae Mr ap Rhisiart eisoes wedi bod yn gweithio fel rheolwr ar brosiect M-SParc dros y pedair blynedd diwethaf.
Fe agorodd y parc, sydd wedi costio £20m i'w adeiladu, ar ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Dywedodd Mr ap Rhisiart: "Dim ond dechrau'r hyn rydyn ni'n bwriadu ei gyflawni yw cwblhau'r adeilad hwn.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i sicrhau bod y cyfleuster hwn yn cyflawni ar gyfer y rhanbarth nawr o ran swyddi o safon a thwf economaidd.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod y cyfleuster hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc y rhanbarth allu aros yma a gweithio, petaen nhw'n dymuno gwneud hynny."
Dywedodd Ieuan Wyn Jones: "Roeddwn i'n falch iawn o glywed bod Pryderi wedi cael ei benodi.
"Mae wedi bod yn rhan o'r tîm ers dros bedair blynedd, ac mae cael y parhad yma'n bwysig iawn ar gyfer y prosiect."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2018