Medal arian i Menna Fitzpatrick yn PyeongChang
- Cyhoeddwyd
![Sgïo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16273/production/_100393709_402a708e-09f0-4a2e-82f7-a27f87cc233d.jpg)
Mae'r sgiwraig Menna Fitzpatrick a'i thywysydd Jen Kehoe wedi ennill medal arian yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.
Fe ddaethon nhw'n ail i Henrieta Farkasova a Natalia Subrtova o Slofacia yn y ras uwch gyfunol ar gyfer merched rhannol ddall.
Dyma ail fedal y Gymraes a'i thywysydd, a gafodd fedal efydd yn y gemau yn PyeongChang ddydd Sul.
![Sgïo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/54EB/production/_100393712_843fb716-bb7e-477c-8545-fabc6c7f2ca2.jpg)
Mae Fitzpatrick a Kehoe wedi bod yn cydweithio ers Medi 2015
Dywedodd Fitzpatrick wrth y BBC bod y profiad wedi bod yn un yn anhygoel: "Doeddwn i ddim yn fodlon iawn gyda fy sgïo ddydd Sul oherwydd roeddwn i'n eitha' statig a ddim yn dilyn yn llwybr Jen pan oedd hi'n gweiddi wrtha i am wneud hynny.
"Ond wedi'r Super G unigol, roedden ni'n gwybod fod gyda ni fedal yn y bag.
"Nawr, ry' ni jyst yn cael amser anhygoel ac yn mwynhau'r gemau Paralympaidd oherwydd yn aml iawn, ry' chi'n mynd drwy'r ras a jyst yn meddwl am sgïo."
Ychwanegodd Kehoe: "Mae'n hollol anhygoel dod yn ôl o ble roedden ni ddeuddydd yn ôl a chwblhau slalom a Super G parchus iawn, felly ry' ni ar ben ein digon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2018