Ysgolion yn wynebu 'argyfwng cudd' achos diffyg arian
- Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid wedi siarad am "argyfwng cudd" sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru oherwydd diffyg cyllid.
Mae 'na rybudd y gallai pwysau ariannol eisoes fod yn niweidio safonau gyda dosbarthiadau mwy a staff sy'n gorfod dysgu nifer o bynciau.
Wrth i gyllidebau'r flwyddyn nesaf gael eu penderfynu, mae BBC Cymru hefyd wedi cael gwybod ei bod hi'n debygol y bydd rhagor o swyddi'n cael eu colli mewn ysgolion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn blaenoriaethu cyllid i gynghorau er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd ysgolion yn uniongyrchol.
Mae Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac aelod o bwyllgor gwaith Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, yn dweud bod y sefyllfa'n fregus iawn.
Dyw'r toriadau yn y byd addysg ddim wedi cael yr un sylw â'r byd iechyd medd Neil Foden
"Mae 'na argyfwng cudd yn y sector addysg yn fy marn i. Pan mae problemau yn codi yn y gwasanaeth iechyd maen nhw yn tueddu i fod yn weladwy," meddai.
"Os ydy rhywun yn marw oherwydd eu bod nhw wedi gorfod aros i gael gwely mewn ysbyty, mae'n taro penawdau'r newyddion yn syth bin."
"Pe bai pobl yn sylweddoli beth sy'n digwydd mewn ysgolion - bod 'na lai a llai o wario ar adnoddau i blant, bod maint dosbarthiadau yn codi, bod problemau recriwtio staff erbyn hyn oherwydd maen nhw'n gweld bod y swydd ddim hanner mor hawdd i'w wneud ag oedd o ychydig flynyddoedd yn ôl - mi fydden nhw'n poeni bron cymaint."
'Anghysondeb cyllido'
Dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl Mr Foden, mae ysgolion cynradd wedi dechrau defnyddio staff heb gymwysterau dysgu i gamu i'r adwy wrth i athrawon dreulio amser yn cynllunio, paratoi ac asesu.
Yn ogystal â Mr Foden mae penaethiaid eraill yn poeni am anghysondeb cyllido ysgolion ar draws Cymru.
Mae Michael Davies, pennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych, Sir Benfro, yn rhagweld y bydd 'na doriadau dyfnach nag erioed, gan gynnwys cwtogi cyrsiau TGAU a phartneriaethau gyda cholegau eraill.
Dywedodd Michael Davies bod rhaid lleihau nifer ei staff - "yr adnodd pwysicaf yn yr ysgol"
"Mae'n mynd yn fwy o sialens bob blwyddyn. Ni wedi bod yn torri bob llinell yn y gyllideb yn raddol," meddai.
"Ond ni wedi cyrraedd y pwynt lle i ni yn gorfod torri'r adnodd pwysicaf yn yr ysgol sef y staff.
"Y staff sy'n cynnal y safonau yn yr ysgol, y staff sy'n darparu'r addysg i'n disgyblion ni. Ond nawr… ni'n gorfod torri staff hefyd."
Maen nhw wedi torri ar fuddsoddiad technoleg gwybodaeth yr ysgol, y cyrsiau datblygiad proffesiynol ac ar danwydd a gwresogi'r ysgol, meddai.
"I ni wedi torri rownd yr ymylon 'na i gyd ond erbyn hyn does dim unman arall gyda ni i fynd. I ni wedi torri i'r asgwrn."

Gofynnodd BBC Cymru i awdurdodau lleol Cymru am lefelau diffygion ariannol mewn ysgolion:
Mae Pen-y-bont wedi rhagweld y bydd gan 26 o ysgolion y sir - dros hanner ohonyn nhw - ddiffyg o bron i £1.2m fis Ebrill;
Ym Mhowys mae 34 o'r ysgolion yn y coch ar ddechrau'r flwyddyn ariannol hon gyda'r cyfanswm yn cyrraedd £2.48m;
Yng Nghaerdydd roedd 11 o ysgolion mewn diffyg y llynedd, gydag un ysgol £1.6m yn y coch;
Roedd 7 o 12 ysgol uwchradd Sir y Fflint mewn diffyg ar ddechrau'r flwyddyn ariannol bresennol;
Yn ôl Sir Benfro roedd disgwyl y byddai 15 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd mewn diffyg ariannol ddiwedd Mawrth.
Mae lefelau'r cronfeydd sy'n cael eu cadw wrth gefn gan ysgolion Cymru wedi bod yn gostwng hefyd:
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, y cyfanswm oedd £46m, sy'n gyfwerth â £102 y disgybl;
Yng Ngwynedd, yn ôl Mr Foden, roedd dros 30 o ysgolion gyda llai na £10,000 mewn cronfeydd wrth gefn. Roedd yn gwybod am 25 o ysgolion yn y sir oedd wedi dechrau diswyddo staff;
Yn Ynys Môn roedd y lefelau uchaf o gronfeydd wrth gefn - sef £223 y plentyn;
Sir Ddinbych oedd a'r lefelau isaf - diffyg o £70 fesul disgybl;
Roedd cronfeydd wrth gefn Powys yn £2 bob disgybl.

Dywedodd Myfanwy Alexander - aelod o gabinet Cyngor Powys sydd â chyfrifoldeb dros addysg - fod natur wledig y sir yn golygu ei bod yn costio mwy i gludo plant a'u bod yn talu £68,000 y dydd am wasanaethau bysiau'n unig.
"Mae'r llywodraeth yn gofyn i ni ddarparu addysg a phobl yn dewis byw yng nghefn gwlad," meddai.
"Does gennym ni ddim modd i'r plant yna gyrraedd yr ysgol os oes gennym ni ddim digon o bres i dalu am y bysys.
"I fod yn onest 'dwi'n colli cwsg am gostau cludiant mwy nag unrhyw beth arall.
"Mae'r costau 'na yn codi o hyd ac o hyd a 'dwi ddim yn meddwl bod y llywodraeth yn deall yr her sydd gennym ni, jest i sicrhau bod y plant yn gallu cyrraedd yr ysgol."

Yn ôl Myfanwy Alexander mae'n anodd dod o hyd i gyllid i ariannu trafnidiaeth i ddisgyblion ym Mhowys
Yn ôl Llywodraeth Cymru cyfrifoldeb cynghorau lleol yw cyllido ysgolion ac mae'n bwysig cydnabod nad oes "yr un awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5% yn eu cyllid craidd y flwyddyn nesaf".
Dywedodd y llefarydd hefyd fod camau wedi eu cymryd i flaenoriaethu cyllid i lywodraeth leol er mwyn sicrhau bod adnoddau "yn mynd yn syth at gefnogi gwariant ysgolion".
"Rydym yn cydnabod y pwysau y mae agenda llym barhaus Llywodraeth y DU yn ei roi ar ein gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam mai dim ond yr wythnos diwethaf cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg y byddai £14m yn cael ei gyfeirio at gefnogi pob ysgol ledled Cymru," meddai'r llefarydd.
"Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i flaenoriaethu cyllid ysgolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2018