Eddie Jones yn ymddiheuro am sylw sarhaus am Gymru

  • Cyhoeddwyd
Eddie Jones

Mae hyfforddwr rygbi Lloegr, Eddie Jones wedi "ymddiheuro'n ddiamod" am wneud sylwadau sarhaus am Gymru ac Iwerddon.

Fe wnaeth y sylwadau mewn sgwrs i noddwyr ym mis Gorffennaf 2017.

Dywedodd Jones, 58, ei fod yn ymddiheuro os cafodd unrhyw un eu tramgwyddo, gan ychwanegu: "Dim esgusodion. Ni ddylwn i fod wedi dweud yr hyn wnes i."

Dywedodd llefarydd ar ran corff rheoli rygbi Lloegr bod y sylwadau yn "anaddas" ac y byddai'n ymddiheuro i gyrff rheoli Cymru ac Iwerddon.

Cafodd y fideo o'r digwyddiad ei lwytho i'r we y llynedd, ond dim ond yn ddiweddar y daeth i amlygrwydd.

Iwerddon, sydd eisoes wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, fydd gwrthwynebwyr tîm Eddie Jones ddydd Sadwrn.