Newidiadau posib i eglwys ym Mlaenpennal yn hollti barn

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Blaenpennal
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr eglwys ei hadeiladu yn y flwyddyn 1903

Mae gwahaniaeth barn wedi amlygu ei hun o fewn cymuned yng Ngheredigion oherwydd newidiadau sy'n cael eu cynnig i Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal.

Bwriad rhai o'r aelodau yw adeiladu croglofft a gosod toiledau yn yr Eglwys.

Byddai'r newidiadau yn golygu symud y bedyddfaen o gefn yr Eglwys, a cholli rhai corau.

Mae'r Eglwys yn eistedd tua 80 ar hyn o bryd.

Yn ôl y rhai sy'n gwrthwynebu'r newidiadau, byddai'r gwaith yn dinistrio adeilad arbennig.

Ond mae'r Eglwys yng Nghymru'n dweud bod y newidiadau "ddim yn radical" a bod yn rhaid i eglwysi addasu i anghenion y gynulleidfa pan fo'n bosib.

'Ymdrech i gyfaddawdu'

Yn adeilad gymharol newydd, fe gafodd Eglwys Blaenpennal ei adeiladu ym 1903.

Erbyn hyn, mae'r rheiny sy'n defnyddio'r adeilad yn dweud ei fod yn anaddas ar gyfer ei bwrpas.

Mae'r Canon Phillip Wyn Davies, sy'n ficer yn yr Eglwys, yn dweud bod y newidiadau dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

"Mae anghenion addolwyr modern yn wahanol i anghenion y cenedlaethau cynt," meddai.

"Ni'n trio addasu'r Eglwys i anghenion yr addolwyr rheolaidd heb newid pethau yn ormodol i'r plwyfolion sy'n addoli yn fwy achlysurol."

Disgrifiad,

Dywedodd y Canon Phillip Wyn Davies eu bod yn ceisio ystyried anghenion yr "addolwyr rheolaidd" â'r "gynulleidfa ehangach"

Byddai adeiladu croglofft yn ehangu defnydd pobl o'r Eglwys, ac yn cynnig ei hun fel lleoliad ar gyfer cynnal cyfarfodydd.

Byddai'r Ysgol Sul hefyd yn gallu gwneud defnydd o'r ystafell newydd, yn hytrach na'i chynnal mewn cwt y tu allan fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Ychwanegodd y Canon Davies: "Y broblem gyda chyfaddawdu yw bod pawb yn colli rhywbeth.

"Mae pobl yn becso gormod, heb sylweddoli nad ydym yn bwriadu newid yr Eglwys yn gyfan gwbl.

"Rhaid cofio bod un rhywbeth sy'n tanseilio'r ffyddloniaid, yn mynd yn erbyn diddordebau'r gymuned ehangach hefyd."

Torri naws gwasanaethau

Mae deiseb sy'n gwrthwynebu'r newidiadau yn cael ei gylchredeg ar hyn o bryd.

Yn ôl y rhai sydd wedi arwyddo, does dim angen cyflwyno'r newidiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Trwy adeiladu croglofft byddai modd cynnal yr Ysgol Sul yno, yn hytrach nag yn y cwt sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd

Maen nhw'n teimlo bod y posibilrwydd o symud y bedyddfaen er mwyn cwblhau'r gwaith yn torri ar naws gwasanaethau'r Eglwys.

Un sy'n cefnogi'r ddeiseb yw'r Cynghorydd Aaron Benjamin.

"Byddai'r newidiadau yma yn dinistrio adeilad arbennig. Mae mwyafrif trigolion y plwy yn gwrthwynebu, ac rydym ni'n gobeithio na fydd y newidiadau yma yn cael eu cyflwyno," meddai.

Dywedodd bod 150 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb, a bod hynny yn cynrychioli bron i 70% o drigolion y plwy.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud nad yw'r eglwys yn un "rhestredig, o werth hanesyddol neu bensaernïol a does dim angen caniatâd cynllunio ar gyfer y newidiadau sy'n cael eu cynnig".

Mae'r llefarydd yn dweud nad yw'r newidiadau'n rhai radical ac na fydd y pulpud na'r gangell yn cael eu heffeithio.

Gorfod 'addasu'

Ychwanega'r datganiad y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ôl y Pasg ynglŷn â bwrw 'mlaen neu beidio gyda'r cais, a bod modd i bobl ddatgan eu gwrthwynebiad trwy ysgrifennu at swyddfa'r esgobaeth.

"Mae'n rhaid i'n heglwysi addasu i anghenion ein cynulleidfaoedd sy'n newid pan fo'n bosib," meddai llefarydd.

"Os nad ydyn nhw'n gwneud, mae yna beryg na fyddan nhw'n cael eu defnyddio ac yn y pendraw yn gorfod cau."