Rhybuddion am rew, eira a gwynt mewn grym i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion am eira, rhew a gwyntoedd cryfion, gan gynnwys un rhybudd oren, oll mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru dros y penwythnos.
Mae un rhybudd melyn ar gyfer eira a rhew mewn grym trwy ddydd Sadwrn yn y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth.
Mae un arall am wyntoedd cryfion ar gyfer y gogledd-orllewin a rhannau o'r canolbarth rhwng 04:00 a 15:00 ddydd Sadwrn, gyda disgwyl gwyntoedd o hyd at 60mya.
Yna mae rhybudd oren, mwy difrifol, am eira mewn grym ar gyfer de-ddwyrain ac ychydig o'r canolbarth o oriau mân fore Sul nes 18:00.
Trwy gydol dydd Sul mae rhybudd melyn gwahanol am eira a rhew ar gyfer rhannau helaeth o ddwyrain a de'r wlad.
Mae'n bosib y bydd 5-10cm o eira yn disgyn hyd yn oed ar dir isel yn ardal y rhybudd oren, a hyd at 25cm ar dir uchel.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i gartrefi golli pŵer, ac mae rhybudd y gallai rhai cymunedau gwledig golli eu cyflenwad trydan a'u llinellau ffôn.
Gall hefyd achosi trafferthion teithio, yn enwedig yn ardal y rhybudd oren, ond does dim disgwyl iddo fod mor ddifrifol â'r eira a welwyd ledled Cymru ddechrau'r mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2018