Tywydd garw'n achosi trafferthion ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o gartrefi wedi bod heb drydan, teithiau trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu canslo a mwy na 1,100 o ysgolion ar gau wrth i'r tywydd garw barhau ar draws Cymru.
Mae'r rhybudd coch gwaethaf wedi pasio, ond mae rhybuddion oren a melyn am eira, gwynt a rhew mewn grym dros Gymru gyfan eto ddydd Gwener.
Y rhybudd i yrwyr yw i beidio â theithio oni bai bod rhaid gwneud, gan fod nifer o ffyrdd ar gau.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cau dros dro, ac mae'r rhan fwyaf o wasanaethau trên yn ne Cymru wedi cael eu gohirio.
Yn dilyn cyfnod o dywydd garw, mae cymdeithas fusnes wedi dweud bod y gost i fusnesau yn filiynau o bunnau.
-5.5C dros nos
Mae'r rhybudd melyn diweddaraf am law sy'n rhewi mewn grym ar draws gogledd orllewin Cymru o 10:30 tan hanner nos.
Dywed y Swyddfa Dywydd mai yn Sain Tathan, Bro Morgannwg y syrthiodd y trwch eira mwyaf drwy'r DU dros nos - 51 cm.
Roedd Parc Bryn Bach yn Nhredegar yn ail safle tabl y llefydd oeraf dwy'r DU dros nos ar ôl i'r tymheredd blymio i -5.5C.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi canslo llawdriniaethau arferol ac apwyntiadau cleifion allanol.
Hefyd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gohirio apwyntiadau rhai clinigau ddydd Gwener, ac mae ysbytai yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn apelio am help i gludo staff i'r gwaith mewn cerbydau 4x4.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe gafodd nifer o gerbydau, gan gynnwys lorïau, eu gadael ar hyd yr M4 rhwng cyffyrdd 26 a 32 ar ôl mynd yn sownd yn yr eira.
Dywedodd Cyngor Ceredigion fod nifer o ffyrdd ar gau ar ôl i goed syrthio ar eu traws.
Mae'r cyfnod oer wedi bod yn "drafferthus dros ben" i economi Cymru gyda'r gost yn rhai miliynau o bunnau, yn ôl cymdeithas fusnes.
Dywedodd CBI Cymru nad yw busnesau'n gallu fforddio cyfnodau o'r fath, pan "dydy pobl ddim yn prynu pethau, dydy pobl ddim yn gwario arian".
Dywedodd cwmni cludiant Owens Group o Lanelli bod y gost yn ddegau o filoedd o bunnau i'r busnes.
Ychwanegodd y rheolwr, Ian Jarman: "Yr effaith arnom ni fel cwmni yw y bydd yn cymryd saith i 10 diwrnod i ddal i fyny gyda'n dosbarthiadau."
Am 18:00 roedd tua 2,200 o gartrefi heb bŵer ledled Cymru.
Roedd 2,000 o'r rhain yn y gogledd a'r canolbarth - ardal Scottish Power - a 200 yn y de - ardal Western Power Distribution.
Ar ei uchaf roedd 852 o gartrefi yn ne Cymru heb drydan fore Gwener, a bu tua 3,000 o gartrefi heb drydan yn y gogledd a'r canolbarth am gyfnodau.
Gwyntoedd cryf
Mae gwyntoedd cryf yn hyrddio hyd at 65mya wedi gwneud hi'n anodd i beirianwyr gyrraedd nifer o leoliadau.
Dywedodd Guy Jefferson, cyfarwyddwr SP Energy Networks, fod y gwynt wedi sgubo un o'u gweithwyr oddi ar ei draed.
"Fe welodd weithiwr arall goeden yn syrthio ar gerbyd atgyweirio, gan chwalu'r ffenestr flaen, ond yn ffodus doedd ein staff ddim y tu mewn iddo ar y pryd."
Ychwanegodd eu bod yn monitro llinellau trydan o hofrennydd.
Mae adeiladau hefyd wedi bod heb drydan mewn rhannau o Wynedd, gan gynnwys ardal rhwng Waunfawr a Beddgelert ar ôl i goeden gael ei chwythu i lawr a syrthio ar bolion trydan.
Mae gwyntoedd cryf wedi achosi difrod i o leiaf 18 o gychod ym marina Caergybi, ac mae 80 yn rhagor mewn perygl o gael difrod yn yr harbwr.
Mae Gwylwyr y Glannau Abergwaun yn cynghori gyrwyr i osgoi ffordd arfordirol Parrog gan fod y llanw a'r gwynt yn codi cerrig mawr i'r ffordd a'r maes parcio.
Oherwydd y tywydd garw mae'r Urdd wedi gorfod ail-drefnu'r eisteddfodau cylch oedd i fod i gael eu cynnal y penwythnos yma ac mae'r manylion diweddaraf ar eu gwefan, dolen allanol.
Teithio
Yn hwyr ddydd Iau fe wnaeth Trenau Arriva Cymru drydar i nodi pa wasanaethau fydd ddim yn rhedeg yn ystod y dydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ers hynny maen nhw wedi cadarnhau bod holl wasanaethau'r cwmni yn y de wedi'u gohirio.
Mae cwmni Great Western hefyd wedi cynghori pobl i beidio ceisio teithio ar eu gwasanaethau yn ystod y dydd.
Mae cwmnïau bysiau Stagecoach a Bws Caerdydd wedi gohirio'u holl wasanaethau ddydd Gwener yn ogystal.
Y cyngor i deithwyr oedd wedi bwriadu hedfan o Faes Awyr Caerdydd yw i gysylltu gyda'r cwmniau teithio am ragor o wybodaeth.
Chwaraeon
O'r pedwar rhanbarth rygbi, dim ond y Dreigiau fydd yn chwarae y penwythnos yma.
Maen nhw eisoes wedi teithio i Dde Affrica i herio'r Southern Kings, ac mae'n debyg fod y tywydd dipyn gwell yna.
Mae gemau clybiau pêl-droed Caerdydd (Y Bencampwriaeth yn erbyn Brentford), Casnewydd (Adran 2 yn erbyn Accrington Stanley) a Wrecsam (Cynghrair Genedlaethol yn erbyn Ebbsfleet) eisoes wedi eu gohirio, ac mae amheuaeth am y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr rhwng Abertawe a West Ham yn Stadiwm Liberty.
Mae'r unig gêm yn Uwch Gynghrair Cymru rhwng Prestatyn a'r Barri eisoes wedi ei gohirio, ac ni fydd gemau Llandudno v Y Drenewydd a Cei Connah v Y Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru yn cael eu chwarae.
Ysgolion
Fe wnaeth dros 1,100 o ysgolion Cymru gyhoeddi y byddan nhw'n cau ddydd Gwener.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefannau'r cynghorau sir. Cliciwch ar y dolenni isod (nid yw'r wybodaeth ar gael yn Gymraeg ar bob gwefan):
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2018