Hoci iâ: Devils Caerdydd yn ennill y Gynghrair Elît
- Cyhoeddwyd
Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi ennill y Gynghrair Elît am yr ail dymor yn olynol ar ôl trechu'r Belfast Giants o 3-2.
Fe wnaeth y cyfnod cyntaf orffen yn 1-1 gyda Colin Shields a Joey Martin yn sgorio'r goliau yn yr SSE Arena.
Llwyddodd Matt Pope i roi'r Devils ar y blaen ond llwyddodd Spiro Goulakos i sgorio yn yr ail gyfnod i wneud y sgor yn 2-2.
Gyda dim ond eiliadau yn weddill yn y gêm, dyma Devils Caerdydd yn ymosod ac fe sgoriodd Andrew Hotham y gôl fuddugol i sicrhau mai Devils Caerdydd oedd yn cipio'r bencampwriaeth eleni.