Woking 2-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi disgyn i'r pumed safle yn y Cynghrair Cenedlaethol wedi gêm gyfartal yn erbyn Woking.
Daeth y Dreigiau'n agos at sicrhau triphwynt, cyn i Joey Jones ddod â Woking yn gyfartal wedi 80 munud.
Andy Davies a Carl Darlington sydd yn rheoli'r tîm dros dro, wedi i Dean Keates adael i reoli Walsall yn yr Adran Gyntaf.
Y tîm cartref aeth ar y blaen gyntaf gyda gôl gan Josh Staunton yn y deuddegfed munud, ond fe hefyd ddaeth â Wrecsam yn gyfartal wrth iddo rwydo'r bêl i'w gôl ei hun wedi 33 munud.
Aeth Marcus Kelly â Wrecsam ar y blaen wedi'r hanner, cyn i Jones ddod â Woking yn gyfartal.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrexham yn ddiguro ers 14 gêm y tymor hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018